Rusty bolts lie in the road; a jar filled with corroded washers; a cast-iron spike thrown into a skip; a piece of steel washed up on the beach. Combining discarded materials with precious metals and gemstones; using the skills of the traditional fine jeweller, Dauvit aims to make pieces which are beautiful, technically interesting and humorous.
Dauvit’s jewellery is made for women but more significantly men. Today jewellery is not widely worn by men, Dauvit hopes to challenge this by using materials from traditionally masculine backgrounds – iron, steel, the road, the building site, the machine-shop. Also influenced by the Renaissance, a time when men could freely wear jewellery which was glorious, allegorical and blackly humorous. As then his jewellery mixes precious with semiprecious, is overblown and makes a statement about the wearer's beliefs: Dauvit aims to push both what is considered possible and acceptable in jewellery.
Bolltiau rhydlyd yn gorwedd ar y ffordd; jar yn llawn wasieri wedi rhydu; sbigyn haearn bwrw wedi ei daflu i sgip; darn o ddur wedi ei olchi lan ar draeth. Trwy gyfuno deunyddiau wedi eu taflu â metalau gwerthfawr a gemau, a gan ddefnyddio sgiliau’r gemydd cain traddodiadol, bydd Dauvit yn anelu i greu gweithiau sy’n hardd, sy’n dechnegol ddiddorol ac sy’n llawn hiwmor.
Caiff gemwaith Dauvit ei greu ar gyfer menywod, ond yn fwy arwyddocaol efallai, ar gyfer dynion hefyd. Heddiw, nid yw dynion yn gwisgo llawer o emwaith, ond mae Dauvit yn gobeithio herio hyn trwy ddefnyddio deunyddiau o gefndiroedd sy’n draddodiadol wrywaidd – haearn, dur, yr heol, y safle adeiladu, y gweithdy. Caiff ei ddylanwadu hefyd gan gyfnod Y Dadeni, cyfnod pryd y gallai dynion wisgo gemwaith ysblennydd, alegoraidd a llawn hiwmor tywyll, fel y mynent. Fel yn y cyfnod hwnnw, mae ei emwaith yn cyfuno’r gwerthfawr â’r lled-werthfawr, yn ymffrostgar ac yn gwneud datganiad am gredau’r person sy’n ei wisgo: mae Dauvit yn anelu i wthio ffiniau’r hyn gaiff ei ystyried yn bosibl ac yn dderbyniol mewn gemwaith. |