Llantarnam Grange Arts Centre
Home page button
Current and next
Previous exhibitions
Touring exhibitions
Schools
Work in wider community
Childrens holiday activities
Art parties
Craft shop
Publications
Room hire
The Grange Cafe
News
About us
Location

 

Winter Activities at Llantarnam Grange

Adult Workshops at Llantarnam Grange Arts Centre – Winter Series
Gweithdai i Oedolion yng Nghanolfan Celfyddydau Llantarnam Grange – Cyfres y Gaeaf

To accompany our “Running Stitch” exhibition, two of the exhibitors will be running workshops in November, December and January suitable for all adults aged 16+. Both Becky Adams and Claire Cawte are exceptional practitioners of their craft and renowned throughout Wales for their inspiring creative workshops.

Due to anticipated popularity of these workshops prior booking is essential by calling 01633 483321, emailing info@lgac.org.uk or visiting the centre.

 

I gydfynd â’n arddangosfa “Running Stitch”, bydd dau o’r arddangoswyr yn rhedeg gweithdai ym mis Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr sy’n addas ar gyfer oedolion dros 16 mlwydd oed. Mae Becky Adams a Claire Cawte eu dwy yn feistresi neilltuol ar eu crefft ac yn adnabyddus trwy Gymru am eu gweithdai creadigol ysbrydoledig.
Rhagwelir y bydd y gweithdai hyn yn hynod o boblogaidd felly bydd archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol trwy alw 01633 483321, ebostio info@lgac.org.uk neu trwy ymweld â’r ganolfan.

28.01.12 Memories on Cloth with Claire Cawte
Claire Cawte workshop

Blending an array of natural fleece and fibres (bamboo, soya, flax) to make an abstract piece of cloth, to display as a wall hanging or become your favourite scarf. Exploring inspiration from images or drawings, favourite places, colours and smells can all be translated into a tactile and textural language.
Learn felting with fibres and nuno felting; introduce an accent of colour and texture into the neutral shades of fleece to create a beautiful bespoke piece of art.
Materials for participants; apron, towel, note book and perhaps any 'inspiration' in the way of photographs, images, drawings. Students are welcome to bring small selection of fabric, treasures or scraps! This is not essential as all materials will be provided
For Beginners and Intermediate (aged 16+). All materials provided.
Cost: £40.00

Atgofion ar Frethyn gyda Claire Cawte

Cyfle i gyfuno amrywiaeth o gnu a ffeibrau naturiol (bambw, soia, llin) i greu darn o frethyn haniaethol, i’w arddangos fel croglun neu i’w wisgo, efallai, fel hoff sgarff. Gan archwilio ysbrydoliaeth o ddelweddau a darluniau, gall hoff fannau, lliwiau ac arogleuon i gyd gael eu trosi’n iaith gyffyrddadwy a gweadol.
Cewch ddysgu i ffeltio â ffeibrau a ffeltio ‘nuno’; cyflwyno fflach o liw a gwead arbennig i liwiau niwtral Cnu Prydeinig i greu darn unigryw, hardd o gelf. Dylai cyfranogwyr ddod â ffedog, tywel, llyfr nodiadau a rhywfaint o ‘ysbrydoliaeth’ gyda nhw ar ffurf ffotograffau, delweddau a darluniau ayb. Mae croeso i fyfyrwyr ddod â detholiad bychan o ffabrig, trysorau neu sborion gyda hwy, ond nid yw hyn yn hanfodol gan y darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.
Ar gyfer lefel Dechreuwyr a Chanolradd (16+ mlwydd oed). Darperir yr holl ddeunyddiau.
Cost: £40.00

 

About the Workshop Tutors

Becky Adams Becky is a collector of stories; they become an integral part of her life and are ingrained into the making of her work through a sophisicated use of stitch, vintage fabric and antique ephemera. There is a subtle and respectful glance to the study of the human condition; each piece is aware of its past, its present and its untold future. Through the natural language of her work, each piece becomes an embodiment of a story preserved within each careful stitch.
Claire Cawte Claire Cawte's work has an affinity to the natural environment, suggesting calm and tranquil inspiration. She has always identified with the gifts of nature, choosing to use solely plant dyes and for this latest range of work, British Fleece. Derived from the world of organic form and growth Claire Cawte's work is free flowing, linking the layers of nature and our inner selves. Material combinations and manipulation present a refined quality relating to something extra special, in the natural world and our inner selves.

Am Diwtoriaid y Gweithdai

Becky Adams Mae Becky yn gasglwr straeon; maent yn tyfu’n rhan annatod o’i bywyd ac yn cael eu gwau yn y broses o greu ei gwaith trwy ddefnydd soffistigedig o bwythau, hen ffabrig ac effemera hynafol. Ceir cipolwg parchus ond cynnil ar astudio’r cyflwr dynol; mae pob darn yn ymwybodol o’i orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol dirgel. Trwy iaith naturiol ei gwaith, bydd pob darn yn ymgorffori stori gaiff ei gofnodi gan bob pwyth gofalus.

Claire Cawte Mae gan waith Claire Cawte gydnawsedd â’r amgylchedd naturiol, sy’n awgrymu ysbrydoliaeth llonydd a thawel. Mae wastad wedi uniaethu â rhoddion byd natur, gan ddefnyddio lliwiau naturiol o blanhigion yn unig ac, ar gyfer y casgliad diweddaraf yma o’i gwaith, â Chnu Prydeinig. Yn deillio o fyd ffurf a thyfiant organig, mae gwaith Claire Cawte yn llifo’n rhydd, gan gyd-gysylltu haenau natur â’n henaid. Mae’r cyfuniadau o ddeunyddiau a’i thriniaeth ohonynt yn creu ansawdd coeth sy’n berthnasol i rywbeth hynod o arbennig, yn y byd naturiol ac ynom ein henaid ninnau.