Ffôn: 01633 483321

A Dream of Mystic Terror

A Dream of Mystic Terror
Darluniau John Selway ar gyfer ‘The Great God Pan’ gan Arthur Machen
03 Chwefror 2018 tan 17 Mawrth 2018
Oriel Brif

Yn 2016 comisiynwyd yr artist John Selway gan y cyhoeddwyr o Gasnewydd, ‘Three Impostors’, i gynhyrchu cyfres o ddarluniau ar gyfer argraffiad newydd o ‘The Great God Pan’ gan Arthur Machen. Cyhoeddwyd y llyfr yn gyntaf yn 1894 ac mae’n disgrifio canlyniadau arswydus arbrawf bisâr mewn llawdriniaeth ar yr ymennydd a gyflawnwyd yn Bertholey House yng nghysgod Wentwood. Cafodd y darluniau eu creu’n ddigidol ac maent wedi’u hargraffu ar ffurf ysgythriadau. Bydd yr arddangosfa hefyd yn dathlu lansiad yr argraffiad newydd hwn o’r llyfr.