Ffôn: 01633 483321

Amanda Denison

Amanda Denison
04 Awst 2018 tan 22 Medi 2018
Arddangosfa Gemwaith

Mae Amanda Denison yn cael ei hysbrydoli a'i chyfareddu gan yr olion a adewir trwy ddirywiad a dadfeiliad, a gan y marciau a argraffir ar yr amgylchedd trefol. Mae'n cael ei denu gan elfennau ailadroddus sy'n gwyrdroi ac yn newid; mae ei diddordeb mewn patrwm a gweadau arwyneb yn cael ei drosi i'w gemwaith. Mae cefndir Amanda mewn celfyddyd gain yn dylanwadu ar ei dull o weithio: mae'n arlunio yn ei harwynebau enamlog sy'n dod yn gyfryngau ar gyfer archwilio a datblygu gwneud marciau.  

Mae pob darn yn unigryw oherwydd, er ei bod yn gallu ail-wneud y prosesau, mae elfen o siawns bob tro ac nid yw dau ddarn fyth yn union yr un fath.