Ffôn: 01633 483321

[vinegar & brown paper]

[vinegar & brown paper]
03 Chwefror 2018 tan 17 Mawrth 2018

Andy Poplar yw [vinegar & brown paper]. Roedd Andy yn wneuthurwr creadigol gwobrwyedig ym myd hysbysebu, ond penderfynodd adael ei swydd oherwydd ei fod angen gwneud rhywbeth gwahanol gyda'i fywyd. Ymhen tipyn cafodd y syniad o ysgythru gwydr. Mae'n dewis eitemau clasurol ac eiconig ac yn eu troi'n ddarnau unigryw, wedi'u saernïo'n gain, gyda'i frand unigryw o hiwmor hynod.

“Rwy'n treulio fy nyddiau yn gweithio wrth ddesg sydd â theipiadur Remington a ffôn Bakelite o'r 1940au arni. Ni fydd y ffôn fyth yn canu, mae'r inc ar ruban y teipiadur wedi hen golli ei liw – ond maen nhw yno beth bynnag – un yn stand ar gyfer fy iPhone, y llall yn cael ei ddefnyddio i ddal papur. Ffyrdd newydd o edrych ar hen bethau – mae hon yn thema a welir drwy fy ngwaith i gyd am wn i.”

 

Ennillodd [vinegar & brown paper] Wobr Arddangos Llantarnam Grange yn Gwnaed â Llaw yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd yn Nhachwedd 2017.