Clwb Celf Dydd Sadwrn

Mae Clwb Celf Dydd Sadwrn yn rhaglen o weithdai ymarferol i bobl ifanc 7-11 oed sydd â brwdfrydedd a diddordeb yn y celfyddydau gweledol.

Dan arweiniad artist/tiwtor profiadol, bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i archwilio amrywiaeth o ddisgyblaethau fel collage, llunio, gwneud printiau, cerameg, peintio ac arlunio.Bydd pob person ifanc yn cymryd rhan mewn 10 sesiwn x 2 awr, unwaith y mis, gan ddechrau ym mis Medi 2018 a gorffen ym Mehefin 2019.

Pris y rhaglen yw £60 (£6 y sesiwn) ac mae’n rhaid talu wrth fwcio. Ffoniwch 01633 483321 i fwcio lle.

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig.

Tweet