Ffôn: 01633 483321

Llywodraethu

Mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn elusen gorfforedig, rhif cofrestru elusen 1006933, a hefyd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 02616241.

Dan lywodraeth Bwrdd Ymddiriedolwyr/Cyfarwyddwr, dirprwyir y gwaith o reoli, rhedeg a threfnu rhaglenni'r ganolfan o ddydd i ddydd i Gyfarwyddwr y Ganolfan a thîm o staff ymroddgar. Diffinnir strwythur a gweithrediad y Bwrdd gan gyfansoddiad llywodraethu'r mudiad. Mae hwn yn diffinio sut caiff y Bwrdd ei benodi; y rheolau a gedwir wrth gynnal ei gyfarfodydd; a sut mae'n rhaid i'r mudiad gyflawni ei fusnes.

Cyhoeddir ein Datganiad Buddiolwyr Cyhoeddus yn flynyddol a chaiff ein hadroddiad a'n cyfrifon eu cyflwyno i'r Comisiwn Elusennau. Mae'r Datganiad Buddiolwyr Cyhoeddus yn dangos bod ein rhaglen o weithgareddau'n bodloni ein hamcanion elusennol ac yn esbonio ym mha ffordd mae ein gwaith o fudd cyhoeddus.

Crynodeb Busnes:

Agorodd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange (LGAC) yn 1966 ac yn gyffredinol, mae’n ymgysylltu â thros 45,000 o bobl bob blwyddyn bellach. Mae'r cynulleidfaoedd yn ymgysylltu â'n prosiectau yn y ganolfan ac mewn lleoliadau eraill ar draws y wlad, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allanol, ac yn ymgysylltu â ni'n ddigidol. Mae ein rhaglen o arddangosfeydd yn cefnogi artistiaid ar bob cam o'u gyrfa ac, ar yr un pryd, mae'n rhoi cyfle i'n cynulleidfaoedd gael at waith creadigol o'r safon uchaf. Mae cyfranogi, ymgysylltu ac addysg wrth galon yr hyn a wnawn a byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau, gan gyfnerthu ein rôl fel adnodd gwerthfawr yn ein cymuned leol, ein Sir, ein Rhanbarth ac yn Genedlaethol.

Ein Cenhadaeth:

Hyrwyddo addysg a dealltwriaeth o’r celfyddydau gweledol er budd bywydau ein cymunedau.

Ein Gweledigaeth:

Cyflwyno'r gwaith gorau a wneir yng Nghymru, a dod ag enghreifftiau o'r gweithiau pwysicaf a mwyaf diddorol a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i Gymru. Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgu / cyfranogi / ymgysylltu sy'n berthnasol i fywydau ein cymunedau.

Ein Nodau:

1. Byddwn yn darparu cyfleoedd i artistiaid ac yn gwella safonau curadu ein harddangosfeydd trwy gyflwyno gwaith sy'n cynhyrfu ac yn herio. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth a chydweithrediad â sefydliadau eraill i gyflawni hyn.

2. Byddwn yn nodi ac yn meithrin doniau creadigol ac yn cyflwyno rhaglen ddysgu i bobl o bob oedran a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu llawn botensial, a datblygu eu sgiliau, hyder, iechyd a lles.

3. Byddwn yn eiriol dros gydraddoldeb o ran mynediad at y celfyddydau ac yn ceisio cyrraedd cynulleidfa sydd mor eang â phosibl. Bydd ein rhaglenni a'n gweithgareddau'n cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn benodol: Cymru o gymunedau cydlynus, â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

4. Byddwn yn atgyfnerthu ein rôl fel adnodd gwerthfawr ac angenrheidiol yn y Dref, y Sir, y Rhanbarth ac yn Genedlaethol.

5. Byddwn yn ymdrechu i greu dyfodol cynaliadwy a gwydn ar gyfer y sefydliad.

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch â ni a gofynnwch am gopi o'n cynllun busnes cyfredol.

Tweet