Swyddi a Gwirfoddoli
Kickstart: Cynorthwyydd Marchnata a Datblygu (25 awr yr wythnos)
** DYDDIAD CAU ESTYNEDIG I 5PM 29ain MAWRTH 2021 **
Diben y swydd
Cefnogi'r tîm i gyflawni amcanion strategol y sefydliad o ran marchnata a chodi arian, cyfathrebu pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud, a hyrwyddo ein gwaith i bartneriaid, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr a rhanddeiliaid ar draws pob llwyfan yn ogystal â cheisio am arian prosiect i barhau â'r gwaith rydyn ni’n ei wneud.
Pwy sy'n gallu gwneud cais?
Pobl ifanc 16-24 oed, sy'n ddi-waith ac yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Cyflog:
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran yr unigolyn)
Cyflog Byw Cenedlaethol (23+): £8.91
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22): £8.36
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20): £6.56
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (dan 18): £4.62
Contract ar gyfer 25 awr yr wythnos yw hwn, am gyfnod penodol o chwe mis. Mae oriau swyddfa Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange fel arfer rhwng 9am a 4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Rydyn ni’n hapus i ystyried gweithio hyblyg i'r rheini sydd ag ymrwymiadau gofalu – byddwn yn gweithio hynny allan fesul achos, a fydd hynny ddim yn cael effaith ar ein penderfyniad.
Sut i wneud cais
Yn gyntaf, siaradwch â'ch hyfforddwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Bydd hyfforddwr gwaith yn siarad â chi am Kickstart.
Yna bydd eich hyfforddwr gwaith yn eich cyfeirio ar gyfer y swydd, yn dibynnu ydych chi’n addas ac ar gael.
Os nad ydych wedi ymweld â ni o'r blaen, mae ganddon ni daith 3-D o gwmpas yr adeilad ar gael yma er mwyn i chi ddod i nabod yr adeilad. Gallwch chi hefyd ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael blas ar y math o waith rydyn ni’n rhan ohono a/neu'n angerddol amdano.
Dyddiadau pwysig:
Bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan eich hyfforddwr gwaith erbyn 5pm ar 29 Mawrth 2021. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofyn i'ch hyfforddwr gwaith am hyn mewn digon o bryd.
Bydd y lleoliad yn cychwyn ar 6 Ebrill 2021, ac yn para tan fis Medi, gyda'r posibilrwydd o estyniad, os bydd cyllid ar gael ar gyfer y cynllun.
Dysgwch ragor am Gynllun Kickstart yma: https://www.gov.uk/government/collections/kickstart-scheme
Am wybodaeth mwy ewch i: https://docdro.id/D8LR8MB
Staff caffi rhan amser
Rydym bob amser yn chwilio am staff rhan-amser profiadol ar gyfer ein caffi mewnol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth