Ffôn: 01633 483321

Y Gymuned Ehangach

Mae ymgysylltu â'n cymuned leol yn greiddiol i ethos y Ganolfan Gelfyddydau. Ein nod yw darparu adnodd dysgu bywiog a chyfoethog. Wrth ymdrechu i ddangos ymagwedd gynhwysol, rydym yn cynnig llawer o wahanol ffyrdd o ddysgu, gan roi cyfle i bawb ymglymu'n weithredol wrth y celfyddydau gweledol a chrefftau.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Ganolfan Gelfyddydau wedi darparu gweithgareddau a gweithdai allgymorth creadigol ar gyfer: Cymdeithas Alzheimer, Carnifal Pont-y-pŵl, Eisteddfod Yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Llyfrgelloedd Torfaen ac Ymddiriedolaeth GIG Gwent, ymhlith eraill.

Gall Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ddarparu prosiectau artist preswyl tymor hirach sy'n gweithio gyda mudiadau yn y gymuned. Mae ein prosiectau diweddar wedi cynnwys arddangosfa deithiol o waith a grëwyd gan ddosbarth celf Alzheimer a Chyfeillachwyr y ganolfan. Mae'r arddangosfa wedi bod ar daith o gwmpas nifer o ysbytai yn Ne Cymru gan helpu i godi ymwybyddiaeth o'r buddion y gall celf weledol eu rhoi i'r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia.

Maer Cwmbrân yn agor yr arddangosfa Art-zheimers.

Tweet