Ffôn: 01633 483321

Gwneuthurwyr

Mae siop grefftau'r ganolfan yn gwerthu amrywiaeth eang o grefftau cyfoes o ansawdd uchel, yn cynnwys cerameg, gwydr, gemwaith, paentiadau a phrintiau, tecstilau.

Rydym hefyd yn cadw detholiad eang o gardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg. Y gobaith yw y byddai gennym waith yma gan y rhan fwyaf o'r gwneuthurwyr isod bob amser. Os ydych yn chwilio am eitemau gan wneuthurwr penodol, byddai'n werth i chi ein ffonio cyn i chi ymweld.

Benton's Menagerie
Dyfnaint

Mae Tracy Benton yn hoff iawn o dipyn o fflwff. Treuliodd flynyddoedd lawer yn astudio ac yn archwilio cerameg, ond unwaith y dechreuodd arbrofi gyda gwlân, roedd wedi ei bachu. Mae Tracy'n dechrau'r broses gyda phellen o wlân cyfrodedd pur. Caiff hwn ei siapio gan ddefnyddio nodwydd fachog arbennig sy'n rhwymo'r ffibrau gyda'i gilydd. Ar ôl llawer bigo a thrywanu, mae cerflun hardd yn ymddangos. Gall gymryd nifer o oriau i greu un darn unigol. Caiff y cerfluniau eu harddangos ar waelod ceramig o waith llaw sy'n dangos pob darn ar ei orau.

Claire Cawte

Claire Cawte
Caerdydd

Mae Claire yn arbenigo mewn creu eitemau 'unigryw' y gellir eu gwisgo ar y corff neu eu dangos fel darnau o gelf ar gyfer y tu mewn. Mae'n creu crogluniau, sgarffiau, clogynnau, carthenni a chlustogau, a phob amser yn rhoi ystyriaeth arbennig i gynhesrwydd, moeth ac, yn y pen draw, cysur. Mae ond yn defnyddio llifynnau planhigion a ffibrau naturiol. Mae ei thechneg a'i harddull wedi datblygu'n broses o ffeltio Nuno. Mae'n debyg mai'r peth pwysicaf yw natur gyffyrddol ei gwaith – sy'n adlewyrchu natur glòs y cysylltiad personol â'r deunyddiau, a'r archwiliad o ffibrau yn ystod y broses wneud.

J C Middlebrook

J C Middlebrook

Mae Jayne Childs yn byw yng nghyffiniau Nottingham. Yn y gorffennol cymharol agos, roedd Nottingham yn enwog am un diwydiant – Les. Nottingham oedd canolfan y DU am gynhyrchu les tan ychydig ddegawdau yn ôl. Mae'n creu tecstilau les yn ei stiwdio yn Nottingham gan ddefnyddio'r meddalwedd a'r peirianwaith diweddaraf. Er bod treftadaeth y diwydiant yn ei hysbrydoli, mae'n well ganddi wneud les mewn lliwiau llachar y gellir ei wisgo, gan herio'r canfyddiadau o'r hyn y gall les fod.

Jackie Needham
Hull

Mae'r ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith Jackie yn deillio o'r berthynas rhwng anifeiliaid a bodau dynol mewn straeon tylwyth teg a chwedlau. Wrth iddi blethu symbolaeth y storïau hynafol hyn ag atgofion personol, mae Jackie yn pylu'r ffiniau rhwng gwirionedd a mytholeg er mwyn cynnig naratif amgen i'r gwyliwr. Mae rhai o'i chreaduriaid ceramig yn cyfeirio at orffennol hiraethus, gyda naws fympwyol a doniol braidd. Mae'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwneud a thanio, yn cynnwys serendipedd tanio mwg a sagar i gyflawni amrywiaeth o liwiau a gweadau wyneb sy'n cyfannu pob darn unigryw.

Jennifer Hall

Jennifer Hall
Crickhowell

Mae Jennifer yn cynhyrchu ystod eang o ddarnau gan ddefnyddio clai priddwaith coch wedi ei addurno â chyfuniad o slipiau gaiff eu trochi, eu tywallt a’u sgraffito. Mae’r prosesau hyn yn creu arwyneb sy’n arddangos coethder a hylifedd y gwydredd plwm anwenwynig lliw mêl a gwyrdd.

Jin Eui Kim

Jin Eui Kim
Caerdydd

Mae gwaith Jin Eui Kim yn archwilio sut y gellir trin canfyddiad ffurfiau serameg tri dimensiwn trwy osod rhesi graddliw ar eu harwyneb. Yn ddibynnol ar drefniant y rhesi hyn, gan ddefnyddio graddfeydd lled, amlder neu arlliw a gwrthgyferbyniad, gellir creu effeithiau gofodol rhithiol a thrwy hynny ddylanwadu’n sylweddol ar y ffurfiau tri dimensiwn eu hunain. Bwriad y ffenomena rhithiol yma yw bod yn bryfoclyd, dala dychymyg y gwyliwr a chynnig posibiliadau newydd ar gyfer addurno gwaith serameg.