Arddangosfeydd Presennol
Mae arddangosfeydd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn cyflwyno'r goreuon o blith gwaith celf weledol a chymhwysol a wneir yng Nghymru, ynghyd â dod â rhai o'r enghreifftiau pwysicaf a mwyaf diddorol i Gymru o waith celf sy'n cael ei gynhyrchu yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae amrywiaeth ein rhaglen yn sicrhau bod pob agwedd ar y celfyddydau cymhwysol yn cael eu cynrychioli, o gerameg i wydr, gemwaith, cerflunwaith a thecstilau. Mae'r artistiaid a ddangoswn yn ein horielau yn cynnwys gwneuthurwyr sefydledig, a hefyd artistiaid ifainc sy'n dechrau eu gyrfaoedd.