Lleolir Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange mewn plasty Fictoraidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dyma’r ganolfan ranbarthol ar gyfer y celfyddydau cymhwysol yn Ne Ddwyrain Cymru.
Mae’r Ganolfan yn creu ac yn cyflwyno rhaglen o arddangosfeydd dynamig a chyffrous sy’n hyrwyddo’r celfyddydau cymhwysol ac yn darparu rhaglen addysg a chyfranogaeth helaeth i’r gymuned leol.
Yn ogystal, mae’r Ganolfan yn creu arddangosfeydd ac yn mynd â hwy ar daith i leoliadau eraill ar draws Prydain ac Ewrop.