Mae myfyrwyr Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd wedi bod wrthi, er gwaethaf popeth, yn creu, yn gwneud ac yn dylunio gwaith drwy gydol cyfnodau clo’r misoedd diwethaf. I ddathlu'r adfyd hwn, mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn falch iawn o gynnal arddangosfa ddigidol ar eu gwefan sy'n dangos amrywiaeth a chryfder eu gwaith. Mae hefyd yn dathlu'r gwaith sydd ar y gweill, gweithiau rhwng prosiectau, a'r awyrgylch stiwdio, boed yn y cartref neu mewn mannau pwrpasol.