Partion Celf
Dathlwch Ben-blwydd eich plentyn gyda ni drwy drefnu Parti Celf
Mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn cynnig profiad creadigol, llawn hwyl ar gyfer pen-blwydd eich plentyn. Rydym yn darparu gweithgaredd dwy awr gydag un o'n tiwtoriaid gweithdy profiadol. Dilynir hwn gan fwyd parti o gaffi LGAC. Mae'n syml – dilynwch y camau isod. Gallwch fwcio parti ar-lein drwy'r ddolen ar waelod y dudalen.
Dewis Parti
- Creu Cardiau
- Gwneud Masgiau
- Crochenwaith
Bydd pob plentyn yn gwneud eitem unigryw ac yn mynd â hi adref
Dewis Amser
- Dydd Sadwrn, 10am-12pm (gweinir bwyd am 11.30am)
- Dydd Sadwrn, 2pm-4pm (gweinir bwyd am 2pm)
Niferoedd a'r Pris
Isafswm o 10 plentyn a mwyafswm o 15 plentyn.
£12.50 y pen am 2 awr, yn cynnwys tiwtor celf, deunyddiau celf a bwyd parti.
Blaendal o £40 yn daladwy wrth fwcio (nid yw hwn yn ad-daladwy). Anfonir llythyr cadarnhau wrth fwcio. Rhaid talu'r gweddill a chadarnhau'r niferoedd a fydd yn bresennol dau ddiwrnod cyn y parti.
Dewis eich Bwyd
- Mae bwydlen benodol yn gynwysedig yn y pris a gellir ychwanegu eitemau eraill am dâl ychwanegol. Anfonir y fwydlen gyda'ch llythyr cadarnhad fel y gallwch wneud eich dewisiadau oddi arni.
Bwcio
- Ffoniwch 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] neu bwciwch ar-lein
Rhieni
Tretiwch eich hun – beth am baned neis o de a darn o gacen cartref yng Nghaffi bendigedig y Grange tra bod eich plentyn yn cael hwyl yn y parti?
Rhaid i ddau oedolyn aros i oruchwylio'r plant yn yr ystafell weithdy.
Partïon Pen-blwydd i Arddegwyr
Gallwch gael parti pen-blwydd mwy soffistigedig – yn llunio crochenwaith ar droell gyda grŵp bychan o ffrindiau
neu'n creu rhywbeth arbennig, unigryw yn un o'n partïon gwneud tlysau.
Nid oes isafswm o bobl a gellir cynnwys bwyd os dymunir. Cysylltwch â ni i ofyn am bris ac fe gewch barti gwych sy'n cydweddu â'ch anghenion unigol.