Ffôn: 01633 483321

Te'r Prynhawn

Mae ein te'r prynhawn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac erbyn hyn gallwch ei fwynhau mewn mwy nag un ffordd yng Nghaffi Oriel. Mae ein tîm ymroddgar yn creu profiadau pwrpasol, yn amrywio o de'r prynhawn hamddenol i ddau, i arlwyo ar gyfer hyd at bedwar ar hugain o westeion, i de'r prynhawn i blant, te prynhawn y Nadolig a hyd yn oed brecinio slawer dydd a weinir ar ein casgliad hardd o lestri ddoe.

  • Sgons ffres gyda'n jam cartref Caffi Oriel unigryw a dogn hael o hufen a mefus ffres
  • Cacennau a theisennau ffres ar archeb yn unol â'ch gofynion
  • Detholiad o frechdanau bychain tair haen
  • Pot o de, te arbenigol neu goffi mewn pot ddoe, gyda chap tebot dewisol!

A'r cyfan wedi ei gyflwyno ar liain glân a'i osod yn hardd cyn i chi gyrraedd.

Te'r Prynhawn i Blant

  • Detholiad o deisennau bychain a brechdanau bychain o waith llaw a weinir ar stand deisennau fechan
  • Dŵr, sudd oren, diod ffrwythau neu de a weinir mewn tebot bychan gyda chwpanau a soseri bychain sy'n rhoi profiad o de'r prynhawn i blant, yn union fel te oedolion
  • Deunyddiau arlunio'n gynwysedig

6 oed ac iau: gellir darparu cadeiriau uchel.

Te Prynhawn y Nadolig

  • Sgons llugaeron ac oren ffres gyda'n jam cartref Caffi Oriel unigryw a dogn hael o hufen
  • Tafellau o gacen Nadolig Caffi Oriel
  • Ein mins-peis moethus mewn crwst brau oren wedi ei lenwi â'n briwfwyd cartref â sawr sinamon, nytmeg a sbeisiau cymysg
  • Detholiad o frechdanau bychain tair haen tymhorol
  • Pwnsh aeron sbeislyd arbenigol dewisol – dialcohol

Wedi ei gyflwyno'n hyfryd mewn awyrgylch Nadoligaidd, gyda décor bwrdd tymhorol traddodiadol.

Gallwn addasu yn unol â'ch gofynion, gofynnwch am opsiynau gwahanol.

Brecinio Slawer Dydd

Mae brecinio slawer dydd yn ddewis arall yn lle'r te prynhawn traddodiadol, ac mae'n gyfle i dreulio'r bore'n hamddenol yn mwynhau detholiad o blith:

  • Croissants gyda jam a marmalêd cartref unigryw Caffi Oriel
  • Fflapjacs Ffres
  • Myffins Brecwast
  • Cacennau Te
  • Ffrwythau Ffres
  • Iogwrt Naturiol
  • Mêl a Granola
  • Sudd oren, coffi ffres, te, neu de arbenigol

Delfrydol ar gyfer cyfarfodydd gweithio mewn lleoliad ysbrydoledig, neu'n berffaith ar gyfer treulio amser yn mwynhau'r bore.

Mae ein te'r prynhawn yn ffordd ardderchog o ddathlu pen-blwydd, cawod babi, parti plu neu ben-blwydd priodas. Rydym hefyd yn arlwyo ar gyfer partïon plant fel rhan o'n pecyn ‘Parti Celf’, ac yn darparu bwffes ar gyfer bwciadau grŵp.

Am unrhyw ofynion diet arbennig, siaradwch â'n tîm cyfeillgar a fydd yn falch o'ch helpu.

Caiff pob te'r prynhawn ei bobi'n ffres yn ôl eich archeb. Rhowch rybudd o 48 awr o leiaf wrth fwcio.

Tweet