Ffôn: 01633 483321

Catalogau

Mae catalogau ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o'r prif arddangosfeydd a gynhelir yn y ganolfan. Gellir gweld y rhain ar-lein, neu gallwch archebu argraffiad printiedig drwy'r dolennau a ddangosir. Noder yr argraffir y catalogau copi caled yn ôl yr archeb, trwy drydydd parti. Bydd unrhyw archebion a rowch gyda nhw ac nid gydag LGAC.

Blanket Coverage

28.11.20 - 10.04.21

Y Dylunydd Tecstilau a'r Artist, Laura Thomas, yn curadu arddangosfa hirddisgwyliedig sy'n rhoi llwyfan i ddylunio wedi’i wehyddu cyfoes.

Bydd O Dan y Dorchudd yn agor yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Cwmbrân, De Cymru ar 28 Tachwedd 2020, ac mae’n adolygiad mawr ei angen o sut mae gwehyddion cyfoes yn parhau i herio syniadau yn y ffurf gelf gyffrous a chyffyrddadwy hon.

Portal 2020

03.10.20 - 14.11.20

Yn cynnwys gwaith graddedigion gorau eleni yn y celfyddydau

Portal and One Year On 2019

Yn cynnwys gwaith y graddedigion diweddar gorau yn y celfyddydau cymhwysol.
Mae LGAC wedi teithio o gwmpas y DU i ddewis y goreuon ymhlith graddedigion eleni yn y celfyddydau cymhwysol. Roeddem yn chwilio am y rhai hynny sy’n estyn ffiniau celfyddyd gymhwysol ac sydd ar yr un pryd yn cynnal a datblygu traddodiadau eu crefft. Y rhain yw’r gwneuthurwyr a’r dylunwyr sydd wedi’u harfaethu i arwain a siapio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid cymhwysol.

Artistiaid Portal artists
Frederick Andrews, Kim Barnett, Estelle Burton, Siwan Davies, Cat Dunn, Li-Chia Hsiao, Lillemor Latham, Lik Kian LOH & Ngah Tho NG, Ben Pusey, Laura Quinn, Daisy Ray, Izaac Reed, Phoebe Tom-Orr, Georgina White, Xiaoying Zhan


Artistiaid One Year On
Eve Campbell, Veronika Fabian, Alysa Freeman, Pasman Leather, Sam Lucas, Morgan Stockton.

Textile Traces - Ruth Singer

Mae’r arddangosfa hon yn tynnu gwaith Ruth Singer at ei gilydd mewn archwiliad o brofiad dynol a fynegir drwy wneud tecstilau mewn dull meddylgar, llawn emosiwn. Mae ei gwaith cynnil a chain yn cyfeirio at golled, atgofion, breuder a niwed – yn y brethyn ei hunan ac yn ein bywydau personol. Mae cefndir Ruth fel hanesydd tecstilau a churadur amgueddfa wedi ei wehyddu drwy ei gwaith; mae’n creu darnau gydag ymdeimlad o hanes ac awrgym o hen bethau ond gyda stori gyfoes bwerus hefyd.