Ffôn: 01633 483321

Catalogau

Mae catalogau ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o'r prif arddangosfeydd a gynhelir yn y ganolfan. Gellir gweld y rhain ar-lein, neu gallwch archebu argraffiad printiedig drwy'r dolennau a ddangosir. Noder yr argraffir y catalogau copi caled yn ôl yr archeb, trwy drydydd parti. Bydd unrhyw archebion a rowch gyda nhw ac nid gydag LGAC.
Material Presence: Zoe Preece

Material Presence: Zoe Preece

A domestic scene

Mae Zoe Preece yn cael ei swyno gan drothwyau, gofodau darfodedig, yr ‘o dro i dro’. Wrth sylwi ar enydau a allai gael eu hanwybyddu, mae’n craffu ar y menisgws ar lwy sy’n cael ei llenwi nes iddi ddymchwelyd, neu’r cydbwysedd ansefydlog mewn dau gwpan wedi’u pentyrru ar ben ei gilydd ar wyneb gweithio yn y gegin, a phob un ar ymyl rhywbeth. Mae’n canfod harddwch ansicr yma a dyhead sy’n atsain o brofiad dynol. Mae’r clai porslen gwyn a ddefnyddir ganddi yn dod yn drosiad, mae ei symudiad o un cyflwr i un arall yn corffori agweddau o fodolaeth dynion.

Prynu catalog

Catalog arlein

Hiraeth

Hiraeth

Storïau addurnol gan Rhiannon Williams

Mae Rhiannon Williams yn addurno straeon. Gan ddefnyddio technegau brodwaith, mae hi'n pwytho storïau pobl gyda'i gilydd. Mae ei naratifau â'u brodwaith cain yn cyfleu golygfeydd sy'n dod o fywyd yn ein hoes fodern, ac o atgofion hiraethus am yr amserau a fu, gan archwilio perthnasoedd dynion a theimladau o berthyn. Astudiodd Rhiannon ar gyfer ei gradd mewn Tecstilau yng Ngholeg Prifysgol Falmouth yn 2011, ac ar gyfer ei gradd Meistr yn y Coleg Celf Brenhinol yn 2014.

Prynu catalog

Catalog arlein

Portal 2017

Portal 2017

Yn rhoi llwyfan graddedigion celfyddydau cymhwysol mwyaf blaenllaw y DU eleni

Mae CCLlG wedi teithio ar hyd a lled y DU i ddethol y goreuon o blith graddedigion y celfyddydau cymhwysol eleni, gan chwilio am y rheini sy’n gwthio ffiniau celfyddyd gymhwysol tra’n cynnal a datblygu traddodiadau eu crefft. Y rhain yw’r gwneuthurwyr a’r dylunwyr sydd yn yr arfaeth i arwain a ffurfio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid cymhwysol.

Prynu catalog

Catalog arlein

Zoomorphic

Zoomorphic

Yr hanner-byd rhwng dynion ac anifeiliaid

Mae trawsnewid sŵomorffig, ble mae bodau dynol yn ymrithio yn anifeiliaid, wedi bod yn rhan o lên gwerin a chrefydd ers miloedd o flynyddoedd, o'r crwyn-gerddwyr brodorol Americanaidd, i dduwiau Eifftaidd, a chreaduriaid o straeon tylwyth teg Ewropeaidd. Mae'r croesrywiau hyn yn archwilio delweddaeth ffantasi a hud, ond hefyd y reddf anifeilaidd hanfodol sydd y tu ôl i'r holl natur ddynol. Mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon yn archwilio'r hanner-byd rhwng dynion ac anifeiliaid trwy gerameg, tecstilau a phrintiadau.

prynu catalog Cymraeg

https://www.peecho.com/checkout/llantarnam-grange-arts-centre/249860/zoomorphic-catalog

Adams to Zobole

Adams to Zobole

Hanner canmlwyddiant Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Catalog ar gyfer yr arddangosfa 50fed pen-blwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange. Yn cynnwys hanes diweddar o Llantarnam Grange . Cyhoeddwyd Mawrth 2016

Anna Adam, Becky Adams, Billy Adams, Iwan Bala, Alan Barrett-Danes & Ruth Barrett-Danes, Geoffrey Bradford, Sarah Bradford, Mick Brown, William Brown , Adam Buick, Brendan Burns, Roger Cecil, Richard Cox, Jack Crabtree, Brian Crouch, Ivor Davies, Lowri Davies, Natalia Dias, Ken Elias, Ann Catrin Evans, Michael Flynn, Morgen Hall, Frank Hamer, Janet Hamer, Jane Hamlyn, Ruth Harries, Rozanne Hawksley, Bert Isaac, Dilys Jackson, Walter Keeler, Christine Kinsey, John Langford, Mary Lloyd Jones, Michael Organ, Arlie Panting, Betty Pepper, Thomas Rathmell, John Selway, Laura Thomas and Ernest Zobole

Prynu catalog

catalog arlein

An 'in' with a stranger

An 'in' with a stranger

Cychwyn sgwrs greadigol

Mae'r curadur, Aidan Moesby, yn cychwyn sgwrs drwy archwilio'r syniad o dywydd fel trosiad ar gyfer y cyflwr dynol. Mae Aidan wedi hel detholiad Rhyngwladol o artistiaid at ei gilydd y mae eu gwaith yn cyseinio â'i weledigaeth. Mae'n cynnwys Catrin Andersson; Joanne Mitchell; Zoe Preece a Tim Shaw

Mae'r arddangosfa yn brosiect Tu Fewn a gyflwynir fel rhan o gyfres “Gwneuthurwr i Guradur” LGAC