Ffôn: 01633 483321

Siop Grefftau

Mae Siop Grefftau LGAC yn arddangos y gorau mewn crefftau cyfoes o bob cwr o Gymru a’r DU – yn cynnwys gwneuthurwyr sy’n gweithio mewn cerameg, gemwaith, tecstilau, gwydr, pren a metal.

Mae rhai o’r artistiaid cymhwysol a gynrychiolir yn cynnwys: Becky Adams, Stuart Akroyd, Duncan Ayscough, David Day, Lowri Davies, Hope & Benson, Claire Cawte, Virginia Graham, Morgen Hall, Susie Horan, Christy Keeney, Louise Lovell, Kathryn Roberts a Walter Keeler.

Yn y Siop Grefftau ceir arddangosfeydd mewn cypyrddau gwydr sy’n cynnig llwyfan i waith egin- wneuthurwyr a rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf. Rydym hefyd yn cadw detholiad o brintiau, llyfrau, cardiau a phapur lapio.

Mae LGAC yn aelod cofrestredig o Gynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cynnig benthyciadau di-log at ddiben prynu celf a chrefft.

Tweet