Hurio Ystafelloedd
Mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn fan cyfarfod unigryw a nodedig, a leolir yn gyfleus yng nghanol Cwmbrân. Mae'r ganolfan yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, yn cynnwys cyfarfodydd brecwast, seminarau, dosbarthiadau a bwciadau rheolaidd gan unigolion, busnesau a mudiadau gwirfoddol. Yn yr ystafelloedd cyfarfod llawn cymeriad, mae'r waliau wedi'u gorchuddio â gwaith celf o gasgliad parhaol y ganolfan ac mae gosodiad yr ystafelloedd yn hyblyg fel y gall gydweddu ag anghenion cwsmeriaid. Mae pob ystafell yn cynnwys wifi am ddim, sgriniau taflunydd a siartiau troi.
Ystafell |
Arddull Theatr |
Arddull Ystafell Fwrdd |
wifi |
|
Zobole |
30 |
20 |
oes |
|
Keeler |
25 |
16 |
oes |
|
Gweithdy |
ddim yn berthnasol |
30 |
oes |
|
Gall ein Caffi mewnol arlwyo ar eich cyfer – maent yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwffe yn unol â'ch anghenion, o de a choffi i frecwast, cinio neu de'r prynhawn. Mae parcio am ddim ar gael 50 llath oddi wrth yr adeilad.
Pris Hurio'r Ystafelloedd yw £9.50 yr ystafell yr awr. Rhoddir disgowntiau am fwciadau wythnosol
Mynediad i'r Anabl
Mae un gris i gael mynediad i'r Ganolfan (ramp cadeiriau olwyn cludadwy ar gael). Mae'r Orielau, Siop Grefftau, Caffi'r Grange, a Thoiled a Addaswyd ar y Llawr Isaf.
Mae'r Ystafelloedd Gweithdy a Chyfarfod ar y Llawr Cyntaf, i fyny 14 o risiau