Gweithdai Gydag Ysgolion
Cynllunir y gweithdai fel y bônt yn cydweddu â chynlluniau gwaith cyfredol eich ysgol, neu fe'u cysylltir â rhaglen arddangosfeydd y Ganolfan Gelf, a gellir eu cynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange neu yn yr ysgol ei hun.
Mae'r disgyblion yn profi ac yn ymchwilio i waith artistiaid a gwneuthurwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wrth iddynt ymweld ag orielau'r Ganolfan Gelfyddydau.
Rydym yn cynnig gweithdai diwrnod cyfan a hanner diwrnod ac yn darparu'r holl ddeunyddiau ac offer sydd eu hangen.
Rydym yn cynnig gweithdai hyfforddiant mewn swydd i athrawon a staff cymorth.
Ysbrydoliaeth – gallwn helpu i sicrhau bod eich syniadau'n cael eu gwireddu.
- Cerameg
- Collage
- Adeiladu
- Arlunio
- Graffeg
- Dylunio Gemwaith
- Paentio
- Gwneud Printiadau
- Tecstilau
Preswyliadau i Artistiaid mewn Ysgolion
Mae gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange hanes o drefnu a rhedeg rhaglenni o breswyliadau dan arweiniad artistiaid mewn ysgolion.
Gall y preswyliad fod ar ffurf cyfres o weithdai unigol dros nifer o wythnosau, neu floc o weithdai ar ddiwrnodau dilynol mewn celf neu grefftau trawsgwricwlaidd. Gallai'r preswyliad arwain at greu llyfr dosbarth, croglen frethyn, gosodiad neu furlun.