Cyllid
Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yw'r prif leoliad ar gyfer y celfyddydau cymhwysol yn Ne-ddwyrain Cymru, ac mae'n cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o arddangosfeydd celf gymhwysol gyfoes a rhaglen ddysgu eang o gyfranogiad, addysg a gweithgareddau cyfranogol. Heb y cymorth amhrisiadwy gan ein cefnogwyr allweddol, ni fedrai Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange gyflwyno gwaith o'r lefel a'r ansawdd y mae'n ei gyflawni ar hyn o bryd.
Mae LGAC yn rhan o bortffolio Sefydliadau Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae LGAC yn Brif Dderbynnydd Grantiau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae LGAC yn derbyn cyllid blynyddol gan:
- Cyngor Sir Mynwy
- Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon
- Cyngor Cymuned Cwmbrân
Ers 2010, mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange wedi derbyn cyllid prosiect gan y sefydliadau a'r cyrff canlynol hefyd :
- Rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
- Cronfa Gymunedol Banc Lloyds
- Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl
- Ymddiriedolaeth Cwmbrân
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – Y Porth Ymgysylltu
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – Grant Newid yn yr Hinsawdd
- Grŵp Gweithredu Cwmbrân