Casgliad Parhaol
Ar hyd y blynyddoedd, mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange wedi crynhoi casgliad parhaol o waith celf gan nifer o artistiaid cyfoes dawnus. Mae'r gwaith wedi ei osod yn yr ystafelloedd cyfarfod a'r coridorau ar lawr cyntaf y Ganolfan Gelfyddydau.
Os nad yw'r ystafelloedd cyfarfod mewn defnydd, gellir gweld y casgliad yn ystod oriau agor y ganolfan. Os ydych yn bwriadu trefnu ymweliad penodol, argymhellwn eich bod yn ffonio ymlaen llaw i sicrhau bod yr ystafelloedd ar gael i weld y gwaith. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i'r llawr cyntaf i'r anabl.
Mae'r artistiaid y mae eu gwaith yn ymddangos yn y casgliad parhaol yn cynnwys: Sarah Bradford, Mick Brown, William Brown, Brendon Stuart Burns, Ashraf Hanna, Ruth Harries, Michael Organ, Arlie Panting, Paul Peter Piech, Mark Saunders, John Wright, Ernest Zobole.