Criw Celf

Datblygu Dawn yn y Celfyddydau Cymhwysol a Gweledol i bobl ifanc o oed ysgol

Mae Criw Celf yn un o brosiectau cenedlaethol strategol Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn y De Ddwyrain mae dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange. Mae’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau artistig, gan weithio y tu allan i’r ysgol, ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau. Mae Criw Celf yn cynnig cyfle i ddylunwyr ac artistiaid gweledol ifanc uchelgeisiol dreulio amser yn datblygu eu dawn gyda’u cyfoedion a gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector.

Mae Criw Celf yn canolbwyntio ar bobl ifanc y mae eu potensial neu eu dawn arbennig wedi cael ei nodi gan eu hathrawon ysgol. Bydd ein rhaglen yn rhoi cyflwyniad iddynt i ystod amrywiol a chyfoethog o genres artistig ac yn agor eu llygaid i ehangder y posibiliadau gyrfa y gall Celf a Dylunio arwain atynt. Rhaglen waith wedi’i thargedu yw Criw Celf, yn hytrach na phrosiect cyfranogi mynediad agored.

Mae Criw Celf yn ymroi i gyfrannu at agenda Mwy Abl a Thalentog (MATh) Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ffurfio rhan allweddol o strategaeth Creawdwyr Ifainc Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n anelu at ‘Ddatblygu Doniau Ifainc’.

Criw Celf – Cynradd (Blynyddoedd Ysgol 5-6)

Yn ystod y rhaglen bydd y cyfranogwyr yn cael profiad o weithio gydag artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol a fydd yn cyflwyno ystod amrywiol a chyfoethog o genres artistig i’r cyfranogwyr ifanc. Bydd y rhaglen yn rhedeg am 10 mis gydag 1 sesiwn y mis. Bydd y cyfranogwyr yn cael profiad o raglen gyffrous ac ysbrydoledig a fydd yn archwilio amrywiaeth o gyfryngau yn ystod y sesiynau gweithdy. Bydd pob cyfranogwr yn cael cyfle i arddangos eu gwaith mewn o leiaf 2 leoliad oriel a bydd catalog o’r arddangosfa yn cael ei gynhyrchu. Yn y sesiwn weithdy gyntaf, bydd y bobl ifanc yn derbyn pecyn celf sy’n cynnwys bag prosiect, llyfr braslunio modrwy A4, pin graffig a deunyddiau arlunio i annog eu creadigrwydd y tu allan i leoliad Criw Celf.

Dyddiadau: Medi 2018 - Mehefin 2019

£50 i bob myfyriwr am y cwrs cyfan, yn cynnwys yr holl ddeunyddiau

Criw Celf – Uwchradd (Blynyddoedd Ysgol 7-9)

Ar gyfer y rhaglen 10 mis hon, sydd ag 1 sesiwn weithdy bob mis, bydd y bobl ifanc greadigol yn manteisio ar brofiad artistiaid a gwneuthurwyr a fydd yn eu harwain a’u cefnogi ar hyd eu taith greadigol. Cynhelir y gweithdai yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange a’r Riverfront. Bydd pob cyfranogwr yn cael cyfle i arddangos eu gwaith mewn o leiaf 2 leoliad oriel a bydd catalog o’r arddangosfa’n cael ei gynhyrchu. Bydd pob cyfranogwr yn derbyn pecyn celf i fynd ag ef adref a’i ddefnyddio yn ystod y sesiynau. Bydd y pecyn yn cynnwys bag prosiect A3, llyfr braslunio modrwy A4, pin graffig a deunyddiau arlunio.

Dyddiadau: Medi 2018 - Mehefin 2019

£50 i bob myfyriwr am y cwrs cyfan, yn cynnwys yr holl ddeunyddiau

Criw Celf – Portffolio (Blynyddoedd Ysgol 10-11)

Yn cymryd rhan mewn 5 diwrnod dwys o weithgareddau gydag Arts Alive Wales yng Nghrucywel. Yn ystod yr wythnos bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr proffesiynol drwy seminarau a gweithdai ymarferol ysbrydoledig. Ynghyd â gweithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol, bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i ymweld ag oriel gyda’r tîm creadigol. Ar ddiwedd y prosiect bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i arddangos y gwaith meant wedi ei greu mewn arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Cwmbrân ac yn y Riverfront yng Nghasnewydd.

Dyddiadau: Haf 2019

£60 i bob myfyriwr am y cwrs cyfan, yn cynnwys yr holl ddeunyddiau

Criw Celf – Codi’r Bar (Blynyddoedd Ysgol 12-13)

Yng nghanolfan Arts Alive Wales yng Nghrucywel. Dros 5 diwrnod bydd y cyfranogwyr yn archwilio’r gwahanol ymagweddau at gelf a dylunio gan weithio gydag artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr proffesiynol ar gyfres o ddosbarthiadau meistr dwys. Yn ystod yr wythnos bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i drafod ymarfer a phrosesau’r celfyddydau gydag artistiaid ac wrth ymweld â stiwdios artistiaid. Trefnir ymweliad ag oriel flaenllaw hefyd. Bydd Codi’r Bar hefyd yn rhoi cipolwg ar weithio yn y diwydiannau creadigol drwy gysylltu â cholegau a phrifysgolion. Ar ôl gorffen, bydd y cyfranogwyr yn cael golwg ar eu llwyddiannau ac yn gweld eu gwaith celf ar ddangos mewn dau leoliad, a byddant yn derbyn catalogau arddangosfa a chofnod o’u profiadau.

Dyddiadau: Haf 2019

£60 i bob myfyriwr am y cwrs cyfan, yn cynnwys yr holl ddeunyddiau

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. I gofrestru am le cysylltwch â Chanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange cyn gynted â phosibl.

Tweet