Telerau Defnyddio

Telerau defnyddio'r wefan
Mae'r dudalen hon (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt arni) yn rhoi'r telerau defnyddio i chi y ar gyfer defnyddio ein gwefan www.lgac.org.uk (ein gwefan), p'un ai rydych yn westai neu'n ddefnyddiwr cofrestredig. Darllenwch y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio'r wefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a'ch bod yn cytuno i gadw atynt. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau defnyddio hyn, byddwch cystal â pheidio â defnyddio ein gwefan.

Gwybodaeth amdanom ni
Mae www.lgac.org.uk yn wefan a weithredir gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ("Y Ni"). Rydym yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cwmni 2616241 ac mae ein swyddfa gofrestredig yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Heol Tyddewi, Cwmbrân, Torfaen NP44 1PD.

Cyrchu ein gwefan
Rhoddwn ganiatâd i gyrchu ein gwefan dros dro, a chadwn yr hawl i dynnu'r gwasanaeth a ddarparwn ar ein gwefan yn ôl neu ei ddiwygio heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os am unrhyw reswm nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn cyfyngu ar fynediad i rannau o'n gwefan, neu i'n gwefan gyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni.
Os dewiswch, neu derbyniwch god adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch, mae'n rhaid i chi drin y cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol, ac ni chewch ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p'un ai un a ddewiswyd gennych chi neu un a roddwyd gennym ni, ar unrhyw adeg, os yn ein barn ni rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o ddarpariaethau'r telerau defnyddio hyn. Rydych chi'n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sydd eu hangen ar gyfer cyrchu ein gwefan. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pob person sy'n cyrchu ein gwefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd chi yn ymwybodol o'r telerau hyn, a'u bod yn cydymffurfio â nhw.

Hawliau eiddo deallusol
Y ni yw perchennog neu drwyddedai'r holl hawliau eiddo deallusol yn ein gwefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Caiff y gweithiau hynny eu diogelu gan ddeddfau a chytuniadau hawlfraint o gwmpas y byd. Cedwir pob un o'r cyfryw hawliau.
Gallwch brintio un copi, a gallwch lawrlwytho detholiadau, o unrhyw dudalen(nau) o'n gwefan er eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw pobl eraill yn eich sefydliad at ddeunydd a bostiwyd ar ein gwefan.
Ni chewch addasu'r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu printio neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac ni chewch ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, cyfresi fideo neu sain neu unrhyw raffigwaith os ydynt wedi eu gwahanu oddi wrth unrhyw destun cysylltiedig.
Mae'n rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a enwir) fel awduron y deunydd ar ein gwefan bob amser.
Ni chewch ddefnyddio unrhyw ran o'r deunyddiau ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
Os byddwch yn printio, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o'n gwefan gan dorri'r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn peidio ar unwaith ac mae'n rhaid i chi, yn ôl ein dewis, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau a wnaethoch o'r deunyddiau.

Dibynnu ar wybodaeth a bostiwyd
Ni fwriedir i sylwadaeth ac unrhyw ddeunyddiau eraill a bostiwyd ar ein gwefan fod yn gyngor y gellid dibynnu arno. Rydym felly yn gwadu pob atebolrwydd a chyfrifoldeb yn ymgodi o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar y cyfryw ddeunyddiau gan unrhyw ymwelydd i'n gwefan, neu gan unrhyw un a allai gael ei hysbysu am unrhyw ran o'i chynnwys.

Mae ein gwefan yn newid yn rheolaidd
Ein nod yw diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Os bydd rhaid, gallwn atal mynediad i'n gwefan, neu ei chau am byth. Gall unrhyw elfen o'r deunydd ar ein gwefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg benodol, ac nid ydym dan unrhyw orfodaeth i ddiweddaru'r cyfryw ddeunydd.

Ein hatebolrwydd
Darperir y deunydd a ddangosir ar ein gwefan heb unrhyw warantiadau, amodau neu warantau o ran ei gywirdeb. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ninnau, aelodau ein grŵp o gwmnïau, a thrydydd partïon sy'n gysylltiedig â ni trwy hyn yn eithrio yn ffurfiol:

  • Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fel arall fod yn ddealledig trwy statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a ddigwydd i unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â'n gwefan neu mewn cysylltiad â defnyddio, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwefan, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arni, yn cynnwys, heb gyfyngiad unrhyw atebolrwydd dros:
    • golli incwm neu refeniw;
    • colli busnes;
    • colli elw neu gontractau;
    • colli cynilion disgwyliedig;
    • colli data;
    • colli ewyllys da;
    • gwastraffu amser swyddfa neu reoli; ac
    • unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, ni waeth sut mae'n ymgodi a ph'un ai achosir gan gamwedd (yn cynnwys esgeulustod), tor-cytundeb neu fel arall, hyd yn oed os yw'n rhagweladwy, cyhyd na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golled neu ddifrod i'ch eiddo diriaethol neu unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol nad ydynt wedi eu heithrio gan unrhyw rai o'r categorïau a osodir uchod.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn ymgodi o'n hesgeulustod, na'n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio o ran mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan y gyfraith berthnasol.

Gwybodaeth amdanoch chi a'ch ymweliadau â'n gwefan
Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n polisi preifatrwydd. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio â'r cyfryw brosesu ac rydych yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperwch yn gywir.

Lanlwytho deunydd i'n gwefan
Ystyrir nad fydd unrhyw ddeunydd a lanlwythwch i'n gwefan yn gyfrinachol nac yn berchnogol, ac mae gennym yr hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu i drydydd partïon unrhyw ddeunydd o’r fath at unrhyw ddiben. Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu eich hunaniaeth i unrhyw drydydd parti sy'n hawlio bod unrhyw ddeunydd a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych i'n gwefan yn treisio'u hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd.
Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys neu gywirdeb unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu postio gennych chi neu unrhyw ddefnyddiwr arall ein gwefan. Mae gennym yr hawl i ddileu unrhyw ddeunydd a lanlwythwch i'n gwefan.

Rhestr Bostio
Trwy danysgrifio i'n rhestr bostio, rydych yn cytuno i adael i ni ddefnyddio'r data a ddarparoch i anfon gwybodaeth atoch y credwn fydd o ddiddordeb neu'n ddefnyddiol i chi. Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg. Rydych yn cytuno i adael i ni anfon gohebiaeth bersonol un i un atoch. Gallai enghreifftiau o hynny gynnwys anfon negeseuon gwirio cyfeiriad e-bost atoch, ac ateb ymholiadau a anfonir o'ch cyfeiriad e-bost.

Firysau, hacio a thramgwyddau eraill
Ni chewch gamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno yn ymwybodol firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol. Ni chewch geisio cyrchu'n gwefan, y gweinyddwr y mae'r wefan yn cael ei storio arno neu unrhyw weinyddwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan, heb awdurdod. Ni chewch ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig.
Trwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o'r fath i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu gyda'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt. Yn achos toriad o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn peidio ar unwaith.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig, firysau neu ddeunydd arall sy'n dechnolegol niweidiol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd i chi ddefnyddio ein gwefan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, neu unrhyw wefan sy'n gysylltiedig â hi.

Dolennau i'n gwefan
Gallwch greu dolen i'n tudalen hafan, cyhyd ag y gwnewch hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfreithiol ac nad yw'n niweidio ein henw da neu'n manteisio arno, ond ni chewch sefydlu dolen mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw ffurf ar gydgysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni ble nad oes un o'r rhain yn bodoli. Ni chewch sefydlu dolen o unrhyw wefan nad yw'n perthyn i chi. Ni cheir fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o'n gwefan heblaw am y dudalen hafan. Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd. Os hoffech ddefnyddio deunydd ar ein gwefan mewn unrhyw ffordd heblaw am yr hyn a bennir uchod, anfonwch eich cais at [email protected]

Dolennau o'n gwefan
Ble mae ein gwefan yn cynnwys dolennau i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolennau hyn er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu'r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a all ymgodi o'ch defnydd ohonynt.

Awdurdodaeth a chyfraith berthnasol
Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw dros unrhyw hawliad sy'n ymgodi o, neu sy'n gysylltiedig ag ymweliad â'n gwefan. Caiff y telerau defnyddio hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad yn ymgodi ohonynt neu mewn cysylltiad â nhw neu eu cynnwys pwnc neu ffurfiant (yn cynnwys anghydfodau neu hawliadau anghontractiol) eu rheoli gan, a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

Amrywiadau
Gallem adolygu'r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio'r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eu bod yn eich rhwymo. Gall rhai o'r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau defnyddio hyn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir yn rhywle arall ar ein gwefan. Eich pryderon Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â deunydd sy'n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch â [email protected]

Diolch am ymweld â'n gwefan.

Tweet