Arddangosfeydd Teithiol
Mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn ymwneud â phob agwedd ar drefnu arddangosfeydd a mynd â nhw ar daith. Mae pecynnau arddangosfeydd teithiol Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn cynnig cyfle rhagorol i ddod ag amrywiaeth o arbenigedd i'ch safle chi. Cynllunnir yr arddangosfeydd fel y byddant yn cyflwyno archwiliad o syniadau a deunyddiau, ar y cyd â chyhoeddiad cysylltiedig, mewn pecyn cyfaddas a ddanfonir yn syth i'ch safle.
Bydd y lleoliad sy'n cynnal digwyddiad yn gyfrifol am yswirio'r arddangosfa tra bydd yn eu meddiant, gan gynnwys cludiant ymlaen/dychwelyd.