Material Presence: Zoe Preece
Mae Zoe Preece yn cael ei swyno gan drothwyau, gofodau darfodedig, yr ‘o dro i dro’. Wrth sylwi ar enydau a allai gael eu hanwybyddu, mae’n craffu ar y menisgws ar lwy sy’n cael ei llenwi nes iddi ddymchwelyd, neu’r cydbwysedd ansefydlog mewn dau gwpan wedi’u pentyrru ar ben ei gilydd ar wyneb gweithio yn y gegin, a phob un ar ymyl rhywbeth. Mae’n canfod harddwch ansicr yma a dyhead sy’n atsain o brofiad dynol. Mae’r clai porslen gwyn a ddefnyddir ganddi yn dod yn drosiad, mae ei symudiad o un cyflwr i un arall yn corffori agweddau o fodolaeth dynion.