Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

Traces - Kate Haywood

Iaith Clai Rhan II

Oriel Brif

03 Awst 2019 tan 14 Medi 2019

Gall gwaith Kate ymddangos yn rhyfedd o gyfarwydd gan y byddwch efallai’n synhwyro ffurf corn yfed neu balet lliwiau ag atsain o dapestrïau oes Elisabeth. Mae’r arwynebau lle gosodir ei gwaith yn atseinio â chysgodion pethau dynol. Mae ei gwrthrychau wedi’u llunio wrth ymyl ei hymwybod, yn y man lle mae ffuglen a gwirionedd yn gwrthdaro.

Textile Traces: personal stories in cloth Ruth Singer

Oriel Brif

25 Mai 2019 tan 20 Gorffennaf 2019

Mae’r arddangosfa hon yn tynnu gwaith Ruth Singer at ei gilydd mewn archwiliad o brofiad dynol a fynegir drwy wneud tecstilau mewn dull meddylgar, llawn emosiwn. Mae ei gwaith cynnil a chain yn cyfeirio at golled, atgofion, breuder a niwed – yn y brethyn ei hunan ac yn ein bywydau personol. Mae cefndir Ruth fel hanesydd tecstilau a churadur amgueddfa wedi ei wehyddu drwy ei gwaith; mae’n creu darnau gydag ymdeimlad o hanes ac awrgym o hen bethau ond gyda stori gyfoes bwerus hefyd.

Catalog arlein

Mae gweithdai cyfranogol yn rhedeg ochr yn ochr â'r arddangosfa hon

Seen and Unseen: Ingrid Murphy

Iaith Clai Rhan II

Oriel Brif

30 Mawrth 2019 tan 11 Mai 2019

Mae cysylltedd yn hollbwysig i Ingrid, rhwng pobl, lleoedd ac ar draws amser. Mae ei hymchwiliadau’n ein pryfocio ac yn ein synnu wrth iddi gyfuno prosesau cerameg traddodiadol â thechnolegau creadigol. Boed yr olygfa o’r tu mewn i debot neu synau strydoedd Jaipur, mae ei darnau’n ein cysylltu â gwahanol bersbectifau a storïau. Helaethiad ffraeth o ieithoedd a phriodweddau clai yw Gweledig ac Anweledig.

Jin Eui Kim

Datblygu Technegau a Chleiau Tonaidd Ar Gyfer Celfwaith Newydd

Oriel 3

30 Mawrth 2019 tan 11 Mai 2019

Lansiwyd y prosiect hwn, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i ddatblygu technegau newydd er mwyn creu celfwaith sydd â'r potensial i ddylanwadu ar ganfyddiad y gwyliwr mewn celfwaith tri dimensiwn a dau ddimensiwn.

Venus

Oriel Brif

02 Chwefror 2019 tan 16 Mawrth 2019

Nifer o flynyddoedd cyn iddo farw, cynigiodd yr artist William Brown gynllun i gynnal arddangosfa tri artist yn archwilio’r thema Fenws. Ar ôl iddo ‘ddarganfod’ ffigwr addunedol bychan cerfiedig mewn ogof uwchlaw pentref Blaengwynfi, roedd William wedi treulio blynyddoedd yn cynhyrchu paentiadau a phrintiau ar y thema.

Mae Roger Moss a Keith Bayliss wedi ymchwilio a chynhyrchu gwaith newydd mewn amrywiaeth o gyfryngau – paentiadau, printiau, darluniau a cherfluniau i ategu rhai o ddarnau gwreiddiol William Brown. Mae’r arddangosfa’n cynnwys tri ffigwr efydd o ‘Fenws’, un gan bob un o’r artistiaid.

Justine Allison

Justine Allison

Language of Clay: Shifting Lines

Orief Brif

01 Rhagfyr 2018 tan 19 Ionawr 2019

Mae llestri cymhleth Justine Allison yn huawdl ac yn ddyrchafol. Mae golau yn cael ei dynnu atyn nhw, yn cael ei ddal, ac yn pelydru oddi wrthyn nhw. Mae llonyddwch i waith Justine sy’n adlewyrchu proses fyfyriol ei wneuthuriad a gosgeiddrwydd y ffurfiau gorffenedig. Mae gan Justine ei hiaith glai unigryw. Mae ei cherameg yn dangos cydbwysedd rhwng y swyddogaethol a’r cerfluniol, ac mae’n gyfoethog ac yn wreiddiol. Am fod ganddi ddealltwriaeth ddofn o’u defnyddiau ac estheteg weledol gaboledig, mae llestri Justine yn gyflawn.

Mae Shifting Lines yn arddangosfa yn y gyfres The Language of Clay, sef Menter Deithiol Genedlaethol Oriel Mission Gallery a guradwyd gan Ceri Jones.