Mae'r staciau iwtalitaraidd hyn, sy’n herio'r addurnol, yn esblygiad o’r ffurfiau cerfluniol a grëwyd ar gyfer y gyfres ‘Kitchen Storeys’ sy'n parhau i archwilio adeiladu modern a ‘brwtalaidd’, gan gwestiynu'r berthynas rhwng bwyd a phensaernïaeth, mewn synthesis o ffurf a swyddogaeth.
Mae pwrpas ac adeiledd pob tŵr wedi'i stacio yn gyfeiriad gweledol a throsiadol at yr adeiladau pensaernïol llym sy'n ysbrydoli. Dangosir cyffelybiaeth rhwng saernïo defnyddiau cerameg a choncrit, y domestig a'r coffaol, ac wrth i'r staciau gael eu datgysylltu, mae datguddio bwydydd arbennig yn rhoi tystiolaeth benodol ychwanegol o'r berthynas rhwng ffurf a swyddogaeth.
Mae'r ideoleg iwtopaidd sy'n greiddiol i lawer o'r ffurfiau pensaernïol hyn yn cael ei hadlewyrchu yn y defodau sy'n amgylchynu’r weithred o rannu bwyd, prydau cartrefol, ciniawau gwadd a digwyddiadau dathlu, ble mae cyfleoedd yn cael eu creu ar gyfer dweud storïau, trafod a dadlau, gan gyfoethogi'r lleoedd ble rydym yn byw ac yn gweithio