Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

Charlotte Burke

Arddangosfa Grefft

31 Mawrth 2018 tan 19 Mai 2018

Mae gwaith Charlotte yn archwilio'r ffyrdd y mae gwrthrychau cyffredin yn cael eu canfod. Gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng 2D a 3D, mae'n defnyddio ffurf, lliw, patrwm, wyneb a gwead i ail-lunio a dadlunio’r gwrthrych er mwyn datguddio rhywbeth newydd.

Graddiodd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cerameg. Yn 2016, aeth Charlotte ymlaen i gwblhau ei Gradd Meistr mewn Cerameg yn yr un sefydliad.

Anna K Baldwin

Arddangosfa Gemwaith

31 Mawrth 2018 tan 19 Mai 2018

Mae i ddyluniadau Anna deimlad organig, cyffyrddadwy, sydd yn aml yn cynnwys technegau morthwylio a siapio i greu ymdeimlad o symudiad.

Mae'n cael ei hysbrydoliaeth o lawer o wahanol ffynonellau yn cynnwys goleuni, gwead, a ffurfiau naturiol a hylif. Rydw i hefyd yn cael llawer o syniadau yn syml drwy weithio gyda'r metel ei hun i ddatblygu ffurfiau newydd.

Cerys Jackson

Spore Series

Oriel Cafe Gallery

31 Mawrth 2018 tan 19 Mai 2018

Ar hyn o bryd mae Cerys yn astudio ar gyfer MA mewn Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ac mae hefyd yn diwtor llawrydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange. Gyda'i hangerdd dros weithio yn y sector iechyd meddwl, mae Cerys wedi creu'r 'Spores series' sy'n seiliedig ar yr un person o bob pedwar yr effeithir arnynt gan iechyd meddwl. Gan ddefnyddio sganiau o'r ymennydd, mae wedi defnyddio dysglau Petri i greu printiau o sborau sy’n perthyn i’r rhai hynny yr effeithir arnynt a'r rhai nas effeithir arnynt. Ar ôl troi'r rhain yn sgrin-brint, mae hi'n haenu'r printiau bedair gwaith mewn amrywiol liwiau gan ddangos yr un person o bob pedwar yr effeithir arnynt.

Yn y ffurf haniaethol hon mae pob sbôr yn edrych yn debyg, yn yr un modd ag y mae pawb yn edrych yn debyg ar y tu allan – y dioddefaint mewnol yw'r peth na ellir ei weld.

A Dream of Mystic Terror

A Dream of Mystic Terror

Darluniau John Selway ar gyfer ‘The Great God Pan’ gan Arthur Machen

Oriel Brif

03 Chwefror 2018 tan 17 Mawrth 2018

Yn 2016 comisiynwyd yr artist John Selway gan y cyhoeddwyr o Gasnewydd, ‘Three Impostors’, i gynhyrchu cyfres o ddarluniau ar gyfer argraffiad newydd o ‘The Great God Pan’ gan Arthur Machen. Cyhoeddwyd y llyfr yn gyntaf yn 1894 ac mae’n disgrifio canlyniadau arswydus arbrawf bisâr mewn llawdriniaeth ar yr ymennydd a gyflawnwyd yn Bertholey House yng nghysgod Wentwood. Cafodd y darluniau eu creu’n ddigidol ac maent wedi’u hargraffu ar ffurf ysgythriadau. Bydd yr arddangosfa hefyd yn dathlu lansiad yr argraffiad newydd hwn o’r llyfr.

Women's Talk - Mary Jones

Oriel 3

03 Chwefror 2018 tan 17 Mawrth 2018

Mae'r arddangosfa hon, sy'n dwyn y teitl ‘Women’s Talk’, yn seiliedig ar sgyrsiau gyda menywod y mae Mary Jones wedi eu cyfarfod am fyr dro yn unig, y mae'n eu hadnabod yn dda neu, mewn rhai achosion, y mae wedi eu hadnabod erioed. Am amrywiaeth o resymau, mae'r sgyrsiau wedi cael effaith ar Mary.

Mae Mary yn cael ei hysbrydoliaeth wrth astudio emosiynau dynol a sut maent yn cael eu cyfleu yn ein hwynebau. Ei bwriad yw dod o hyd i ffyrdd o ddehongli’r emosiynau hynny trwy ei hymarfer cerameg, ac o ganlyniad mae'n rhoi presenoldeb unigol i bob darn.

Sonja Beer - Botanical Paintings

Oriel Cafe Gallery

03 Chwefror 2018 tan 17 Mawrth 2018

Pan oedd yn blentyn yn tyfu i fyny yn y Swistir, derbyniodd Sonja lyfr blodau gwyllt gan ei hathrawes yn yr ysgol gynradd. Gwnaeth y darluniau botanegol hynny argraff fawr arni. Rhai degawdau yn ddiweddarach, yn byw yng Nghymru bellach, ac ar ôl cyfnod o beintio gweithiau haniaethol, minimalaidd, dychwelodd at freuddwyd ei phlentyndod o beintio blodau. Yna dechreuodd archwilio a pheintio'r gemau botanegol hyn ym myd natur mewn ffordd tra chywir a manwl. Cafodd Sonja ei harwain gan ei chwilfrydedd naturiol, ei hoffter o fanylder a lliw, a phatrymau o unrhyw fath, ar y cyd â'i hoffter o arddio, i archwilio a chanlyn Celf Fotanegol ar ei ffurf fwyaf pur.