Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

The Cat in the Shoe

Arddangosfa Grefft

11 Chwefror 2017 tan 25 Mawrth 2017

Mae Lucy Brasher yn gweithio yn ei hystafell sbâr ar lan y môr, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ffurf anifeilaidd sy'n corffori'r elfen ddynol.

Mae i'w gwaith gyffyrddiad bach o ysmaldod gydag islais tywyllach, yn debyg iawn i'r chwedlau a'r llên gwerin sydd wedi dylanwadu arno. Mae holl waith Lucy wedi ei greu â llaw ac â pheiriant, gan ddefnyddio ffabrigau wedi eu hadfer a'u hail-bwrpasu yn bennaf.

Jodie Hook

Arddangosfa Gemwaith

11 Chwefror 2017 tan 25 Mawrth 2017

Ar ôl astudio am radd mewn Gemwaith a Gofannu Arian yn Ysgol Emwaith Birmingham, symudodd Jodie i Lundain i fwrw ymlaen â'i breuddwydion. Treuliodd saith mlynedd yn gweithio i'r dylunydd gemwaith ffasiwn, Scott Wilson, gan greu casgliadau ar gyfer sioeau masnach yn cynnwys Wythnos Ffasiwn Llundain, a darnau comisiwn unigryw i gwmnïau ffasiwn blaenllaw a phobl enwog, yn cynnwys Pringle, Swarovski, Robbie Williams a Kylie.

Dychwelodd Jodie i Gaerdydd ac yn 2008 cychwynnodd ei busnes ei hun gan ymsefydlu mewn orielau a siopau ledled y DU gyda'i Chasgliadau Ribbon ac Equilateral.

Y Ribbon Collection yw ei hystod unigryw, a ysbrydolir gan yr ennyd pan fyddwch yn dadrolio rholyn o ruban satin, ac mae'n troelli ac yn dolennu, ac wrth i chi ei godi mae cwlwm yn ffurfio. Mae hi'n trin y metel i greu addurn gwisgadwy ysgafn sy'n edrych yn hardd o bob ongl.

Off the Wall

Oriel Cafe Gallery

11 Chwefror 2017 tan 25 Mawrth 2017

Dros yr hanner can mlynedd o'i bodolaeth, mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange wedi crynhoi casgliad parhaol o baentiadau, lluniau, printiau a chrefftau, yn cynnwys enghreifftiau gan lawer o artistiaid mwyaf dylanwadol ac arloesol Cymru. Mae'r arddangosfa fechan hon yng nghaffi’r Oriel yn cyflwyno detholiad o waith a roddwyd i'r casgliad gan Gymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru (CCGC).

Zoomorphic

Brif Oriel

03 Rhagfyr 2016 tan 28 Ionawr 2017

Mae trawsnewid sŵomorffig, ble mae bodau dynol yn ymrithio yn anifeiliaid, wedi bod yn rhan o lên gwerin a chrefydd ers miloedd o flynyddoedd, o'r crwyn-gerddwyr brodorol Americanaidd, i dduwiau Eifftaidd, a chreaduriaid o straeon tylwyth teg Ewropeaidd. Mae'r croesrywiau hyn yn archwilio delweddaeth ffantasi a hud, ond hefyd y reddf anifeilaidd hanfodol sydd y tu ôl i'r holl natur ddynol. Mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon yn archwilio'r hanner-byd rhwng dynion ac anifeiliaid trwy gerameg, tecstilau a phrintiadau.

Anthropomorphica, Eleanor Bartleman, Christie Brown, Adrian Higgins, Kerry Jameson, kealwork, Jackie Needham, Gladys Paulus, Zenna Tagney, Yannick Unfricht.

Textile Landscapes

Oriel Cafe Gallery

03 Rhagfyr 2016 tan 28 Ionawr 2017

Fel artist tecstilau a phrint mae Penny Turnbull, sy'n byw yn Sir Fynwy, yn ymddiddori'n bennaf mewn collage a haenu gwedd a lliw i greu ei delwedd. Mae ei gwaith yn ymwneud â defnyddio peiriant gwnïo Embellisher sy'n caniatáu iddi gyfuno ffabrigau a lliw mewn ffordd arluniol, ac sy'n hwyluso cymysgu a darnio lliw i gynhyrchu cefndir diddorol ar gyfer datblygu ymhellach gyda phwythau.

Mae brodio rhydd â pheiriant gydag edau du yn creu ansawdd tebyg i fraslun a gaiff ei weithio ymhellach gyda gwaith gwnïo â llaw i ychwanegu manylder a symudiad.

Mae Penny yn gweithio o'i stiwdio yn Sir Fynwy.

Amanda Caines

Arddangosfa Gemwaith

03 Rhagfyr 2016 tan 28 Ionawr 2017

Mae Amanda yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau yn ei gwaith, a chasglodd lawer o'r rhain pan oedd yn byw yn Llundain ble byddai'n chwilota yn y mwd ar flaendraeth yr afon Tafwys. Mae nawr yn byw yng Nghymru ac yn parhau i gasglu gwrthrychau hapgael o dirwedd Cymru, boed pren, gwydr, cerrig afon neu grochenwaith.

Caiff yr holl ddeunyddiau hyn eu rhwymo a'u gwnïo, eu cyfuno ag arian wedi'i ailgylchu, a'u cynnwys mewn darnau pwrpasol o emwaith sydd nid yn unig yn cysylltu â natur a'r dirwedd, ond sydd hefyd yn dweud stori'r cymunedau oedd yn byw o'n blaen ac olion eu bywydau a adawont ar eu hôl.