Mae Jantien wrth ei bodd yn paentio bywyd fel mae'n ei weld o'i chwmpas, cefn gwlad gogoneddus Cymru, y ffermydd mynydd a'u trigolion – yn ferch i ffermwr, dyma'r pethau sy'n annwyl iddi.
Mae'n paentio gydag acryligau yn bennaf ond mae hefyd yn hoff iawn o ddefnyddio collage a gwead i ychwanegu dyfnder a haenau i baentiad. Mae'n torri allan erthyglau papur newydd perthnasol, adroddiadau gwerthiannau o'r marchnadoedd gwartheg, delweddau neu destun y gall eu gweu i'w phaentiadau fel y bydd y gwyliwr yn dod o hyd i wybodaeth newydd yn barhaus, boed enw, pris, llun, efallai, na fyddwch yn sylwi arnynt yn gyntaf. Mae hyn nid yn unig yn ychwanegu haenau hardd i baentiad ond mae hefyd yn ychwanegu marciwr diddorol yn nhermau dyddiadau a lleoedd a gynhwysir