Ffôn: 01633 483321

MakersXchange: Dinny Pocock

16 Ionawr 2016 tan 12 Mawrth 2016
Arddangosfa Grefft

Menter yw MakersXchange ble mae Lleoliadau ac Urddau Gwneuthurwyr o bob rhan o Gymru a'r De-Orllewin yn cyfnewid gwaith y gwneuthurwyr maent yn eu dangos neu eu cynrychioli yn rheolaidd. Eleni mae LGAC wedi cysylltu â New Brewery Arts yn Cirencester a byddwn yn cyflwyno gwaith Dinny Pocock.

Astudiodd Dinny gerameg yn Ysgol Gelf Camberwell yn Llundain ond yn ddiweddar – ac yn rhyfeddol – mae wedi trosglwyddo o'i thechneg o gerflunio haenau mân o borslen dros fframiau gwifren i ffeltio â nodwydd. “Mae creu aderyn taclus o fwndel afreolus o wlân yn teimlo'n gyfareddol ac yn absẃrd i'r un graddau. Yr hyn sydd o'r pwysigrwydd mwyaf i mi yw bod hanfod y testun yn cael ei wireddu: rwy'n hoffi cipio'r ennyd o lonyddwch rhwng symudiadau, yr ennyd pan allai rhywbeth eithriadol "