Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

Rozanne Hawksley - Reflections

Brif Oriel

28 Mai 2016 tan 16 Gorffennaf 2016

Mae gwaith Rozanne wedi bod yn adfyfyriol iawn erioed, nid yn unig wrth adlewyrchu profiadau personol ond hefyd ei hangerdd parhaol ynghylch oferedd rhyfel a thrasiedi colled.

Mae gwaith Rozanne yn llawn grym personol, boed wrth ddarlunio storïau personol neu themâu cyffredinol. Bydd Rozanne yn arddangos ei gwaith 3D cain, a hefyd, am y tro cyntaf, ei hunanbortreadau hynod deimladwy.

Paul Wearing

Paul Wearing

Arddangosfa Grefft

28 Mai 2016 tan 16 Gorffennaf 2016

Mae'r gweadau sy'n ymddangos yn naturiol ar wynebau mewn amrywiol dirweddau trefol a gwledig yn sylfaenol i ymarfer Paul Wearing. Mae'n mynegi ei berthynas â'r rhain drwy'r wyneb gwydrog a'r ffurf llestr cerfluniol ceramig. Mae'r berthynas hon rhwng y cylchredau bywyd datblygol arafach ym myd natur, a'r broses o wneud sy'n arwain at ddatblygiadau alcemegol yn yr odyn, yn greiddiol i'w waith: mae'n ddeialog rhwng pethau o waith llaw ac ymddangosiadau natur.

Susan Kerr

Susan Kerr

Arddangosfa Gemwaith

28 Mai 2016 tan 16 Gorffennaf 2016

Mae Gemwaith Susan Kerr yn gasgliad o ddyluniadau arian gwreiddiol, wedi eu saernïo â llaw, sy'n cynnwys clustdlysau, mwclis, tlysau, breichledau a phinnau. Daw ei hysbrydoliaeth o arddulliau eiconig y cyfnodau Art Nouveau ac Art Deco, ac mae'r canlyniad yn gasgliad hardd ac addurnol o emwaith sy'n cynnwys arian, nacr, a gleiniau lled-werthfawr. Mae'r dyluniadau blodeuog arddulliedig yn creu detholiad o emwaith sy'n fenywaidd, ond eto'n fodern.

From Adams to Zobole

From Adams to Zobole

Hanner canmlwyddiant Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Brif Oriel

26 Mawrth 2016 tan 14 Mai 2016

Ers iddi gael ei sefydlu ym 1966, mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange wedi cynnal dros bum cant o arddangosfeydd ac wedi dangos gwaith miloedd yn llythrennol o artistiaid cain a chymhwysol. Mae'r arddangosfa arbennig hon sy'n dathlu'r 50 mlwyddiant yn cyflwyno detholiad o waith, yn hen a newydd, gan dri deg o'r artistiaid mwyaf dylanwadol y mae eu gwaith wedi ei arddangos yn y ganolfan.

Vicky Lindo

Vicky Lindo

Arddangosfa Grefft

Arddangosfa Grefft

26 Mawrth 2016 tan 14 Mai 2016

Vicky Lindo Ceramics yw'r bartneriaeth greadigol rhwng Vicky Lindo a William Brookes. Maent yn cynhyrchu crochenwaith sgraffito pridd wedi ei slip castio, gan ddefnyddio slipiau a lliwiau dan wydredd i ddarlunio ac addurno'u llestri bwrdd a'u ffigyrau o anifeiliaid. Aeth y ddau i Goleg Celf a Dylunio Swydd Henffordd ble arbenigodd Bill mewn dylunio offerynnau cerddorol a Vicky mewn Tecstilau Darluniadol. Ysbrydolir eu gwaith gan grochenwaith slip Bideford a gynhyrchwyd yng Ngogledd Dyfnaint yn ystod y 18fed-20fed canrifoedd.

Leoma Drew

Leoma Drew

Arddangosfa Gemwaith

Arddangosfa Gemwaith

26 Mawrth 2016 tan 14 Mai 2016

Mae Leoma'n defnyddio rhwyllo, ffurfio siapiau a gosod gemau i greu gemwaith hardd a ysbrydolir gan adenydd. Mae Leoma'n cynnwys motiffau gyda siapiau solet a gosodiad gemau i greu agwedd haniaethol a chyfoes. Gwelir cyferbyniad rhwng yr effaith du a gwyn a'r gemau disglair a dorrwyd yn anarferol sy'n cyd-fynd â’i gilydd yn berffaith.

Mae gemwaith a gwrthrychau gwisgadwy Leoma'n dylanwadu ar ei gilydd ac mae'r darnau hyn yn cynrychioli sentimentaliaeth a gyfoethogir gan yr agosatrwydd a gaiff ei greu rhwng gwrthrych a chorff.