Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

Abandonment and Migration

Gosodiad cerfluniol gan Alison Lochhead

Oriel 3

08 Ebrill 2017 tan 27 Mai 2017

Beth ydych chi'n meddwl wrth ddod ar draws esgid wedi'i thaflu? Mae pob esgid yn cario stori'r person a'i gwisgodd. Mae gwrthdaro'n gorfodi pobl i adael eu cartrefi a cherdded pellterau anferth, gan ddioddef caledi annychmygadwy. Yn fyd-eang mae 65 miliwn o bobl yn ffoi o'u cartrefi am nad yw'n ddiogel aros ynddynt.

Louise Hall

Arddangos Crefft

08 Ebrill 2017 tan 27 Mai 2017

Mae Louise Hall yn gweithio mewn porslen i greu llestri bregus, cain o waith llaw. Mae natur dryleu'r porslen yn creu naws arallfydol a llonyddol pan gaiff ei oleuo o'r tu mewn. Mae gweadau gwahanol yn ychwanegu manylder i wella'r rhith o ddeunydd neu bapur ac ati. Mae Louise yn gwyrdroi dulliau cynhyrchu traddodiadol i greu ffurfiau sydd wedi'u morthwylio, eu trin a'u haflunio, gyda llinellau amherffaith, cromliniau tonnog ac amlinellau bylchog. Nid yw'r uniadau'n cael eu celu na'u cuddio gan liw: maent wedi eu gwneud i ddal sylw ac i gwestiynu sut ddaethant i fodolaeth. Mae Louise yn gweithio yng Nghaerdydd.

Anne Morgan

Gemwaith Showcase

08 Ebrill 2017 tan 27 Mai 2017

Mae casgliad ‘Coast’ Anne Morgan yn dangos dylanwad ei hangerdd dros yr arfordir, gan gyfuno'i gwaith ei hun a gwrthrychau hapgael. Yn aml, mae'r darnau'n rhai unigryw ac maent yn atseinio’r tir o gwmpas y traethau, sy'n newid drwy erydu naturiol gan ddadorchuddio haenau o hanes naturiol ac o waith dyn. Weithiau, y trysorau mwyaf cyffrous yw'r eitemau hynny a adawyd gan ymwelwyr blaenorol, a hawliwyd gan y môr, a chwaraeodd â nhw ac yna eu dychwelyd i'r traeth iddi hi eu darganfod. Mae Anne yn gweithio ym Mhenarth.

Blossoming Talents

Paentiadau botanegol o'r dosbarthiadau celf wythnosol LGAC

Oriel Cafe Gallery

08 Ebrill 2017 tan 27 Mai 2017

Mae celf Fotanegol wedi ei gwreiddio mewn hen feddyginiaethau llysieuol a gynhyrchwyd gan fynachod gan fod angen iddynt rannu eu ryseitiau yn ddiogel gyda mynachod eraill. Roedd hyn yn golygu darlunio'r planhigion a ddefnyddiwyd gyda gradd uchel iawn o gywirdeb fel y gallai mynachod eraill adnabod y planhigion i'w defnyddio heb ofni gwenwyno'u cleifion.



Roedd yn rhaid i helwyr planhigion yn y 1700au a'r 1800au bortreadu eu sbesimenau gyda chywirdeb gwyddonol, a datblygodd celf Fotanegol yn “ddifyrrwch dymunol” i foneddigesau. Mae'r holl waith yn yr arddangosfa hon wedi ei beintio gan fyfyrwyr yn nosbarthiadau celf wythnosol Debbie Devauden yn LGAC a lleoliadau eraill yn yr ardal leol.

Hidden Now Heard ..

Brif Oriel

11 Chwefror 2017 tan 25 Mawrth 2017

Mae’r prosiect hwn, sef y prosiect cyntaf o’i fath ar gyfer Cymru gyfan, yn cy wyno rhan gudd a phoenus o hanes Cymru y mae perygl iddi gael ei cholli am byth os na chai ei chofnodi. Bydd
y prosiect tair blynedd, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn canolbwyntio ar chwe ysbyty arhosiad-hir, gydag arddangosfeydd yn cael eu cynnal mewn chwe amgueddfa ranbarthol.

Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar storïau cyn-sta a chyn-glei on Ysbyty Llanfrechfa, gan roi cipolwg i’r cyhoedd ar y pro ad o dyfu i fyny a threulio hyd at ddeugain mlynedd yn byw mewn sefydliad fel hwn. Defnyddir cyfweliadau â phobl, cai rhannau o’r ysbyty eu hail-greu a dangosir dogfennau, lluniau ac arte actau hanesyddol a roddwyd gan sta a chlei on.

The Periodic Table of Emotions

Aidan Moesby

Brif Oriel

11 Chwefror 2017 tan 25 Mawrth 2017

Mae The Periodic Table of Emotions, Sagacity, yn gymhwysiad byw a ddyluniwyd i gipio naws dinas. Mae'n seiliedig ar ddadansoddiad o’r teimladau mewn ffrydiau byw neu gan y rhai sy'n trydaru'n syth i'r cymhwysiad. Trwy neilltuo hashnod unigryw i ddigwyddiad, arddangosfa, sefydliad, mae'r cymwysiadau'n dod yn ehangach o fewn grwpiau targed mwy penodol. Gall hefyd weithredu o fewn paramedrau seiliedig ar leoliad yn unig. Mae Sagacity yn ymateb yn gyflym dros ben gan y gall emosiwn gael ei oleuo o fewn 30 eiliad ar ôl cael ei anfon, a chael ei ddangos ar y sgrin yn ei holl arlliwiau. Mae'r lliw yn pylu drwy ddiffyg defnydd gydag amser.