Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

Portal2016

Portal2016

Yn rhoi llwyfan graddedigion celfyddydau cymhwysol mwyaf blaenllaw y DU eleni

Brif Oriel

01 Hydref 2016 tan 19 Tachwedd 2016

Mae CCLlG wedi teithio ar hyd a lled y DU i ddethol y goreuon o blith graddedigion y celfyddydau cymhwysol eleni, gan chwilio am y rheini sy’n gwthio ffiniau celfyddyd gymhwysol tra’n cynnal a datblygu traddodiadau eu crefft. Y rhain yw’r gwneuthurwyr a’r dylunwyr sydd yn yr arfaeth i arwain a ffurfio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid cymhwysol

Hatton Willow

Hatton Willow

Arddangosfa Grefft

01 Hydref 2016 tan 19 Tachwedd 2016

Mae Sarah Hatton yn gwehyddu gan ddefnyddio detholiad bychan o'r ugain amrywiad o helyg a dyfir ar ei fferm fechan yng Nghaerffili, sy'n darparu cyflenwad cynaliadwy iddi. Wrth ddefnyddio ystod mor fechan o helyg, a'i dyfu ei hunan, mae Sarah wedi dangos gwerthfawrogiad llawn o gylchred bywyd yr helygen. Mae'r arddangosfa hon yn cyflwyno amrywiaeth o fasgedi sy'n dangos taith Sarah wrth wneud basgedi. Mae wedi cynnwys basgedi Cymreig traddodiadol ynghyd â basgedi cyfoes gan ddefnyddio'i hoff weadau, lliwiau, siapiau a thechnegau. Roedd Sarah Hatton yn enillydd gwobr 'Arddangosfa Grefftau' Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yn ystod yr Arddangosfa Gwnaed â Llaw 2015 yng Nghaerdydd.

Lisa Rothwell-Young

Lisa Rothwell-Young

Arddangosfa Gemwaith

01 Hydref 2016 tan 19 Tachwedd 2016

Mae casgliad Lisa o gennau yn dynwared y patrymau twf y mae cen yn eu creu ar gerrig. Caiff darnau eu hysgythru ag asid, gan greu amrywiadau cynnil mewn lliw drwy ddisbyddu'r arian, ocsidiad a gosod keum bo o aur 23.5 carat. Hefyd, gosodir gemau ffasedog gwerthfawr a lled-werthfawr yn rhai o'r darnau.

Alex Brown

Alex Brown

Oriel Cafe Gallery

01 Hydref 2016 tan 19 Tachwedd 2016

Mae Alex yn un o wŷr y Dadeni o ran ei ymagwedd at beintio, gan drin amrywiaeth eang o bynciau sy'n cynnwys portreadau, tirluniau, bywyd llonydd a phaentiadau haniaethol. Yr hyn sy'n uno'i holl waith yw ei hoffter o liw ac arsylwi. Mae'n ymdrin â'i waith gan ddefnyddio dull gwyddonol, strwythuredig o weld, a thrwy ddadansoddi'r pethau mae natur yn eu rhoi i ni i'w gwerthfawrogi. Enillodd Alex Brown ei radd mewn peintio celfyddyd gain yn Ysgol Gelf Camberwell ar ddechrau'r 80au ac mae wedi bod yn artist arddangos proffesiynol ers hynny. Mae darnau o'i waith mewn casgliadau preifat yn y DU a thramor ynghyd â mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus. Cafodd ei gomisiynu gan Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain i greu cyfres o bosteri ar gyfer Underground ac Art for Hospitals, i enwi ond dau. Mae hefyd yn diwtor gyda blynyddoedd lawer o brofiad, sy'n rhedeg dosbarthiadau bywlunio yn ei stiwdio yn Sir Fynwy. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Alex hefyd wedi bod yn rhedeg cyrsiau peintio poblogaidd yn Ffrainc.

Telling Tales | Anna Noël

Telling Tales | Anna Noël

Iaith Clai: Rhan Un

Brif Oriel

30 Gorffennaf 2016 tan 17 Medi 2016

Y cyntaf o dri arddangosfa unigol o waith gan dri artist serameg wedi eu selio yng Nghymru.

Mae Anna Noel yn delio gyda naratif a’r abswrd. Mae hi’n creu gwaith ffigurol yn raku. Canolbwyntia’i cherfluniau serameg ar stori a chwedlau, gan gwmpasu symboliaeth a chyfrinedd.

Mae’r prosiect yma yn rhoi ffocws arwyddocaol i Anna greu corff o waith adunol a fydd yn cyflwyno ei gwaith i gynulleidfaoedd newydd a lledaenach.

Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Oriel Mission | Curadwyd gan Ceri Jones

In conversation with Rozanne Hawksley

artistiaid yn siarad
25 Mehefin 2016 tan 25 Mehefin 2016

Ganwyd Rozanne Hawksley yn nhref forwrol Portsmouth ym 1931. Roedd yn faciwî yn ystod y rhyfel, a chafodd ei magu ar adeg pan oedd llawer yn galaru am y rhai hynny na ddaethant yn ôl o'r môr. Mae wedi tynnu ar hyn, ac ar brofiadau personol eraill yn ei gwaith. Ar ôl hyfforddi yn y Coleg Celf Brenhinol yn y 1950au, ble daeth yn rhan o'r grŵp a oedd yn cynnwys Lucien Freud, Francis Bacon a John Minton, symudodd i'r Unol Daleithiau. Tra roedd yno, derbyniodd Rozanne gomisiynau gan Eleanor Roosevelt a'r teulu Kennedy, a hefyd bu'n dylunio ar gyfer Diwydiannau Cartref y Menywod, y prosiect ôl-ryfel a grëwyd gan yr Arglwyddes Reading.