Terra Incognita
Bydd Terra Incognita yn arddangos darluniau gan y gwneuthurwr printiau o Gaerdydd, Pete Williams, a grëwyd mewn ymateb i nofel Arthur Machen, ‘The Three Imposters’. Mae cwmni cyhoeddi The Three Imposters wedi cynhyrchu cyhoeddiad newydd sy'n cyfuno'r darluniau â'r straeon erchyll o'r nofel a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1895. Mae'r nofel wedi'i strwythuro'n fras o gwmpas y ‘dyn ifanc â sbectol’ enigmatig a oedd yn ffoi trwy Lundain rhag asiantiaid y gŵr drygionus, Dr Lipsius, wedi iddo ddwyn y darn arian amhrisiadwy, Aur Tiberiws, yn anfwriadol. Bydd cyfle i brynu'r cyhoeddiad yn ystod yr arddangosfa.