Dreams from Detroit
Mae DFD yn dogfennu cyfnod yn hanes moduron yr Unol Daleithiau a nodweddwyd gan ymagwedd at ddylunio a steilio na fyddai'n talu llawer o sylw i gynilo tanwydd ac ymatal o ran dyluniad. Ar yr adeg hon, roedd y stiwdios dylunio yn Detroit yn ymdrin ag aerodynameg ddirnadwy, dylanwad dyluniad awyrennau a rocedi a nodweddwyd gan afiaith oedd weithiau'n feiddgar. Gweledigaethau o'r dyfodol a adlewyrchai'r cyfnod pan gawsant eu dychmygu. Mae'r delweddau yn y sioe hon yn troi o gylch y cyfnod rhwng diwedd y 1950au a chanol y 70au.