Ffôn: 01633 483321

Arddangosfeydd Blaenorol

Kirsty Elson

Arddangosfa Grefft

08 Awst 2015 tan 17 Hydref 2015

Astudiodd Kirsty Ddarlunio yn Ysgol Gelf Caergrawnt ond penderfynodd nad hon oedd yr yrfa y dymunai ei chanlyn. Degawd yn ddiweddarach, ar ôl symud i Gernyw, dechreuodd gasglu broc môr a gwrthrychau hapgael eraill a'u troi yn gerfluniau gyda thema arfordirol.<

Donna Barry

Arddangosfa Gemwaith

08 Awst 2015 tan 17 Hydref 2015

Graddiodd y dylunydd a'r gwneuthurwr gemwaith o Gymru, Donna Barry, o Goleg Celf Caeredin ble datblygodd ei thechneg doddi bersonol. Mae Donna'n creu dalennau arian gweadog a ysbrydolir gan ailadrodd mewn natur a siapiau a phatrymau pensaernïol. Trwy drefnu'r siapiau hyn a pheri iddynt orgyffwrdd, ac yna eu toddi a'u ffurfio, mae darnau gorffenedig Donna'n edrych yn debyg i elfennau o fflora a ffawna hardd.

Shared Vision

The Collaborative Works of Matt and Amanda Caines
23 Mai 2015 tan 25 Gorffennaf 2015

Mae Matt ac Amanda Caines wedi canlyn eu hymarfer mewn celfyddyd gain ers blynyddoedd lawer, Matt fel cerfiwr cerrig ac Amanda fel gemydd ac artist cyfryngau cymysg. Yn 2012, symudon nhw i Gymru a chychwyn ar broses o uno cerrig, pren, corn carw, metel a thecstilau. Mae eu gwaith yn clymu cyfryngau annhebyg at ei gilydd mewn gweledigaeth a rennir. Hon fydd yr arddangosfa fawr gyntaf o waith cydweithredol y pâr.

Trans Iberia

Hanner can mlynedd o baentio’r Penrhyn gan John Selway
23 Mawrth 2015 tan 09 Mai 2015

Ac yntau’n rhan o genhedlaeth euraid yn y Coleg Celf Brenhinol oedd yn cynnwys egin-sêr y cyfnod Pop Art, megis Derek Boshier, David Hockney, Alan Jones, R. B. Kitaj a Barry Bates, aeth John Selway ati ar unwaith i ddilyn ei agenda artistig ei hun. Ac yntau wastad yn gweithio o’r cof, mae wedi mentro ymhell ac agos i chwilio am destunau addas. Yn diwtor dylanwadol yng Ngholegau Celf Caerfyrddin a Chasnewydd, boed yn chwarae â chelf haniaethol, yn cymryd ysbrydoliaeth o lenyddiaeth neu’n ymateb i dirwedd, ei destun pennaf, fel erioed, yw cyflwr y bod dynol. Mae John yn aelod o Grŵp 56.

Emily Kidson

31 Ionawr 2015 tan 14 Mawrth 2015

Gemydd cyfryngau cymysg yw Emily, sy'n gweithio ar hyn o bryd gyda phren, laminiad ac arian. Mae'n defnyddio technegau fel tyllu, llyfnu, cwyro, rhybedu a sodro, gyda phob darn yn datblygu oddi wrth yr un blaenorol. Mae'n tynnu lluniau ei syniadau cychwynnol, a ddaw o blanhigion, adeiladau, ail-wneud, patrwm a lliw, yn ei llyfr braslunio, yna maent yn datblygu'n reddfol wrth i Emily weithio gyda'r deunyddiau. Yn wreiddiol o Henffordd, astudiodd Emily ym Mhrifysgol Brighton a nawr mae'n gweithio yn Llundain.