Ffôn: 01633 483321

Gwneuthurwyr

Mae siop grefftau'r ganolfan yn gwerthu amrywiaeth eang o grefftau cyfoes o ansawdd uchel, yn cynnwys cerameg, gwydr, gemwaith, paentiadau a phrintiau, tecstilau.

Rydym hefyd yn cadw detholiad eang o gardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg. Y gobaith yw y byddai gennym waith yma gan y rhan fwyaf o'r gwneuthurwyr isod bob amser. Os ydych yn chwilio am eitemau gan wneuthurwr penodol, byddai'n werth i chi ein ffonio cyn i chi ymweld.

Sue Binns

Mae'r cyfuniadau o streipiau sy’n diddiwedd i bob golwg ac sy'n amlwg drwy holl waith Sue yn cael eu cynhyrchu drwy frwsio cobalt gwanhaëdig dros y gwydriad dolomit a chânt eu dewis yn ofalus i gydweddu â phob darn unigol. Daw ei hysbrydoliaeth o grochenwaith Môr y Canoldir, ffabrigau a cherameg o Japan ond yn bennaf, o Grochenwaith Rye o'r 50au a welai o gwmpas ei chartref wrth dyfu i fyny. Ond nawr, yn y darnau mawrion, mae Bridget Riley yn codi yn y meddwl o bryd i'w gilydd.

The Cat in the Shoe
Dorset

Mae Lucy Brasher yn gweithio yn ei hystafell sbâr ar lan y môr, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ffurf anifeilaidd sy'n corffori'r elfen ddynol. Mae i'w gwaith gyffyrddiad bach o ysmaldod gydag islais tywyllach, yn debyg iawn i'r chwedlau a'r llên gwerin sydd wedi dylanwadu arno. Mae holl waith Lucy wedi ei greu â llaw ac â pheiriant, gan ddefnyddio ffabrigau wedi eu hadfer a'u hail-bwrpasu yn bennaf.

Thrashion
Cernyw

Rhedir Thrashion gan y sglefriwr, Nat, sy'n creu gemwaith a chyfwisgoedd o sglefrfyrddau a ddefnyddir yn eu cyflwr gwreiddiol, gan gynnwys pob crafiad a tholc sy'n cynrychioli cymeriad y dec. “Gan mai sglefrwyr ydym, gwyddom nad teganau yw sglefrfyrddau a chymerwn ofal mawr wrth lunio cynhyrchion ar gyfer pen ucha'r farchnad sy'n gweddu i fywyd y bwrdd wedi torri. Byddwn yn defnyddio sglefrfyrddau sydd wedi torri neu wedi eu defnyddio'n unig, ac mae o ble mae'r bwrdd wedi dod yn rhan o bob cynnyrch. Defnyddir y deciau a'r olwynion yn eu cyflwr gwreiddiol ac ar wahân i gael eu torri, eu llyfnu a'u gorffen, rydym yn defnyddio cyn lleied o ddeunyddiau ac yn creu cyn lleied o wastraff ag sy'n bosibl.”

Walter Keeler
Trefynwy

Mae crochenwaith Walter Keeler wedi'i wreiddio yn y domestig a'r ymarferol. Mae'n gweithio gyda chrochenwaith caled wedi'i wydro â halen, a gyda phriddwaith wedi'i wydro â phlwm, ac mae ei ddyluniadau arloesol a nodweddiadol yn cael eu llunio, eu troi a'u newid.

Mae gwaith Walter yn ymarferol, ond mae iddo hefyd elfen addurnol gref sy'n pontio'r bwlch rhwng gwrthrychau ymarferol, domestig a ffurf gerfluniol. Mae'r dylanwadau arno yn cynnwys Crochenwaith Groegaidd, Gwydr Rhufeinig, Llestri Swydd Stafford o'r Ddeunawfed Ganrif a chaniau olew tun.