Ffôn: 01633 483321

Gwneuthurwyr

Mae siop grefftau'r ganolfan yn gwerthu amrywiaeth eang o grefftau cyfoes o ansawdd uchel, yn cynnwys cerameg, gwydr, gemwaith, paentiadau a phrintiau, tecstilau.

Rydym hefyd yn cadw detholiad eang o gardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg. Y gobaith yw y byddai gennym waith yma gan y rhan fwyaf o'r gwneuthurwyr isod bob amser. Os ydych yn chwilio am eitemau gan wneuthurwr penodol, byddai'n werth i chi ein ffonio cyn i chi ymweld.

Kathryn Roberts

Kathryn Roberts
Aberhonddu

Mae natur a ffurfiau naturiol, gyda'u hanghymesuredd a'u cydbwysedd sylfaenol, yn themâu sy'n dod yn fwyfwy amlwg yng ngwaith Kathryn. Caiff ffurfiau eu cyfoethogi gan balet anferth o liw a gwedd. Yn anochel, daw ei hysbrydoliaeth o'r deunydd ei hun – ‘y fantais o weithio gyda gwydr yw bod iddo bosibiliadau diddiwedd.’ Mae ei gwaith yn adlewyrchu ei hamgylchoedd a'i chyflwr meddwl – mae'r darnau'n yn rhydd, yn gynnil, ond yn hyderus, gydag ansawdd arlunydd diymatal.

Koa Jewellery
Bro Morgannwg

Mae gemwaith Koa yn cael ei ddylunio a'i wneud â llaw mewn pentref glan y môr hardd ym Mro Morgannwg. Caiff pob darn ei greu’n foesegol gan ddefnyddio piwter sydd heb fymryn o blwm a nicel ynddo. Mae'r rhan fwyaf o'r gemwaith yn cynnwys resin lliw ac mae rhai darnau'n cynnwys nifer o leiniau a ddewisir yn ofalus ac a gyrchir yn foesegol gan gyflenwyr masnach deg.

Louise Hall
Caerdydd

Mae Louise Hall yn gweithio mewn porslen i greu llestri bregus, cain o waith llaw. Mae natur dryleu'r porslen yn creu naws arallfydol a llonyddol pan gaiff ei oleuo o'r tu mewn. Mae gweadau gwahanol yn ychwanegu manylder i wella'r rhith o ddeunydd neu bapur ac ati. Mae Louise yn gwyrdroi dulliau cynhyrchu traddodiadol i greu ffurfiau sydd wedi'u morthwylio, eu trin a'u haflunio, gyda llinellau amherffaith, cromliniau tonnog ac amlinellau bylchog. Nid yw'r uniadau'n cael eu celu na'u cuddio gan liw: maent wedi eu gwneud i ddal sylw ac i gwestiynu sut ddaethant i fodolaeth. Mae Louise yn gweithio yng Nghaerdydd.

Louise Lovell
Sir Fynwy

Bydd Louise Lovell yn gwnïo ei gweithiau hardd â llaw gan ddefnyddio hen ffabrigau a ffabrigau y bydd yn eu hargraffu eu hun. Bydd yn defnyddio delweddau o’i ffotograffau ei hun yn ogystal â hen gardiau, ffotograffau, pecynnau hadau ayb. Caiff yr holl ddarnau ffabrig eu caledu a’u eurliwio er mwyn eu cryfhau. Caiff y rhain eu cyfuno â blodau a pheli wedi eu gwau â llaw ar weill bychain, botymau, glain, hen emwaith, rhubanau a chadwyni. Daw ei hysbrydoliaeth o nifer o ffynonellau y mae pob un ohonynt yn adlewyrchu ei hoffter o liw – darn o ffabrig a ganfyddwyd, patrwm ar jwg, hen ffotograff neu ei hoffter o arddio a natur.

Louise Pringle

Louise Pringle

Mae'r gemwaith 'eclectic shock' yn gasgliad syfrdanol o emwaith unigryw a bendigedig. Mae Louise Pringle yn adlewyrchu ei harddull personol, sy'n annhebyg i unrhyw un arall, yn enwedig o ran ei gemwaith slawer dydd wedi'i ailddyfeisio – mae pob darn yn unigryw gyda breichledau swyndlysau, mwclis a thlysau wedi eu gwneud o ddarnau o emwaith slawer dydd, swyndlysau anarferol, calonnau, hen glustdlysau, darnau arian, modrwyau, watsiau a mwy.

Rozie Keogh
Henffordd

Mae Rosie’n casglu ysbrydoliaeth ar gyfer ei gemwaith o wisgoedd hanesyddol ac arteffactau defodol yr eglwys. Mae llawer o’i gweithiau cymhleth yn cynnwys naratif, a ddaw weithiau o straeon tylwyth teg ac weithiau o ddiwylliant poblogaidd. Mae’r gemwaith wedi ei ddylunio i fod yn brydferthol ac yn gyfareddol ond hefyd yn ddifyr a heriol. Bydd Rosie, gan amlaf, yn gweithio ag arian wedi ei addurno â gemau lled-werthfawr, crisialau Swarovski a pherlau. Ond fydd hi fyth yn diystyru unrhyw fath o ddefnydd ac felly’n mae’n bosibl y gwelwch unrhyw beth, o adain pili pala i gyllell neu fforc tŷ dol, yn ei gwaith.