Galwad Agored Portal 2021
Mae Llantarnam Grange yn chwilio am ddoniau ymarferol newydd a radical i’w harddangos yn yr arddangosfa raddedig flynyddol, gan arddangos gweithiau dewr, gwleidyddol, cadarnhaol a disglair.
Beth yw Portal?
Cyfle yw Portal i bymtheg o grefftwyr, artistiaid, dylunwyr, ffotograffwyr a gwneuthurwyr sy’n graddio gymryd rhan yn yr arddangosfa flynyddol o artistiaid graddedig yn Llantarnam Grange, Cwmbrân.
Beth sydd ar gael?
Cyfle i arddangos gwaith yn Llantarnam Grange yw Portal, ac mae’n rhaglen hyfforddi bwrpasol gyda chefnogaeth gan artistiaid proffesiynol a gweithwyr celfyddydau, sydd yno i gefnogi doniau ymarferol sy’n dod i’r amlwg. Mae Portal hefyd yn sgwrs ehangach am eich doniau ymarferol a’ch uchelgeisiau, sy’n cynnwys staff a gweithwyr llawrydd a fydd yn seinfwrdd ac yn rhwydwaith i’ch helpu i ddilyn gyrfa iach yn y sector, waeth beth fo’ch cyfrwng.
Bydd artistiaid sy’n arddangos yn derbyn ffi o £100 am eu cyfranogiad, a bydd costau cludo eu gwaith un ffordd yn cael eu talu hefyd.
Faint mae’n gostio?
Mae Portal am ddim i gymryd rhan. Byddwn ni’n cynnal sesiynau hyfforddi un-i-un ar-lein.
Sut mae gwneud cais?
Estynnir wahoddiad i Artistiaid, Gwneuthurwyr a phobl Greadigol sy’n graddio o unrhyw gwrs celfyddydau gweledol neu gymhwysol (BA, MA neu Ysgol Gelf Amgen [h.y. School of the Damned, Syllabus, Isl]) o brifysgol yn ngwledydd Prydain yn 2021 i wneud cais am Portal 2021. Llenwch y ffurflen hon cyn 11.59pm, 28 Gorffennaf 2021: https://forms.gle/p4KM2g4AQ3wHkXa3A
Beth yw’r broses?
Derbynnir cynigion tan 28 Gorffennaf 2021, a byddan nhw’n cael eu dethol gan y panel:
Savanna Dumelow, Swyddog Arddangosfeydd Llantarnam Grange a dau ddetholwr allanol ac annibynnol, sydd i’w cyhoeddi’n fuan.
Bydd artistiaid yn cael gwybod am benderfyniad ar ôl dydd Gwener 13 Awst 2021, a byddwn yn ymdrechu i gynnig adborth gan y panel dethol os gofynnir am hynny.
Yr arddangosfa: Bydd Portal 2021 yn agor ddydd Sadwrn 11 Medi 2021 ac yn rhedeg tan 6 Tachwedd 2021. Os bydd yn rhaid newid y dyddiadau hyn, byddwn yn hysbysu’r holl artistiaid cyn gynted â phosib.
Bydd Llantarnam Grange yn talu costau cludo gwaith celf dethol i un cyfeiriad, a bydd hynny’n cael ei drafod fesul achos. Gofynnwn i’r holl artistiaid dethol drefnu cludo neu gasglu eu gwaith erbyn 13 Tachwedd 2021.
Ymrwymiadau
Byddwn ni’n clustnodi chwech o’r 15 lle ar gyfer artistiaid croenliw sy’n graddio o brifysgol yng ngwledydd Prydain. Bydd chwe lle hefyd yn cael eu clustnodi ar gyfer artistiaid o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru sy’n graddio o Brifysgol yng ngwledydd Prydain, a gallai artistiaid fod yn y ddau gategori.
Rydyn ni’n ymwybodol y gall dyddiadau cau fod yn frawychus ac yn anodd cadw atyn nhw am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth. Os ydych chi’n awyddus iawn i wneud cais ond yn teimlo na fyddwch yn gallu cyflwyno’ch gwaith erbyn y dyddiad cau am ba reswm bynnag, cysylltwch â ni a byddwn bob amser yn hapus i drafod cynllun yn anffurfiol ac yn gyfrinachol gyda chi.
Dolenni
Mae rhagor o wybodaeth am Llantarnam Grange ar gael yn: http://www.llantarnamgrange.com
Instagram – https://www.instagram.com/llantarnam_grange/
Twitter – https://twitter.com/llantarnamgrnge
Facebook – https://www.facebook.com/llantarnam.grange
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am arddangosfa Portal 2021, y broses yn gyffredinol, neu os ydych chi am siarad am eich cais neu’ch syniadau, cysylltwch â Savanna Dumelow drwy: [email protected] i drafod.