Katrin Moye
Mae Katrin Moye yn arbenigo mewn llestri bwrdd ac mae'n defnyddio'r dechneg draddodiadol o baentio slip ar briddwaith. Mae ei dyluniadau'n seiliedig ar atgofion o'i phlentyndod yn y 1970au, yn cynnwys eitemau bob dydd mae'n eu cofio fel papur wal, llyfrau lluniau a chlustogau. Datblygir ei phatrymau o addurnau naturiol wedi eu symleiddio a welir mewn dyluniadau o'r cyfnod hwn, ynghyd ag yn y 1950au a'r 1960au. Caiff ei gwaith presennol ei ysbrydoli gan erddi, dail a choed.