Ffôn: 01633 483321

Leto & Ariadne

Leto & Ariadne
04 Awst 2018 tan 22 Medi 2018
Arddangosfa Grefft

Leto & Ariadne yw label stiwdio Nick Ozanne, sy'n gwehyddu â llaw gan weithio ar wyddiau pren. Cyflawnir pob rhan o'r broses â llaw yn y stiwdio, o'r dylunio cychwynnol a pharatoi'r ystof, hyd at y golchi terfynol a gorffen y ffabrigau â llaw. Mae Nick yn defnyddio ffibrau naturiol fel sidan a gwlân yn unig, gan eu bod yn cydweithio ag anghenion y corff ac yn gwella gydag oedran a defnydd. Y bwriad yw bod ei waith yn cael ei ddefnyddio: ei gyffwrdd, ei anwesu, ei fwytho, ac yn gorwedd yn erbyn y croen gan greu teimlad o feddalwch moethus. Mae'r darnau'n cyfuno arddull clasurol ag ymdeimlad dwfn o liw, ac yn ôl y disgrifiad o'i sgarffiau mewn erthygl yng Nghylchgrawn Selvedge, maent yn caniatáu i'r gwisgwr ‘ailgysylltu ag ymdeimlad o Seisnigrwydd a gollwyd’.

Mae'r arddangosfa hon yn rhan o'r rhaglen MakersXchange a redir mewn cydweithrediad ag Urdd Crefftwyr Caerloyw.