Ffôn: 01633 483321

Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange

Heol Dewi Sant
Cwmbrân
Torfaen NP44 1PD
Ebost: [email protected]

Oriau Agor

Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn
Oriel a Siop Grefftau: 9.30yb - 3.30yp
Caffi: 9.30yb - 2.00yp

(ac eithrio Gwyliau'r Banc)
Mynediad am ddim

Dim Delweddau

Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange

Heol Dewi Sant
Cwmbrân
Torfaen
NP44 1PD

Oriau Agor

Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn
Oriel a Siop Grefftau: 9.30yb - 3.30yp
Caffi: 9.30yb - 2.00yp

(ac eithrio Gwyliau'r Banc)
Mynediad am ddim

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn ailagor ar ddydd Mawrth 1 Medi 2020 ac edrychwn ymlaen at eich croesawu nôl i’n hadeilad!

Dyma restr o Gwestiynau Cyffredin a allai fod o gymorth cyn i chi ymweld â ni ar ôl y cyfyngiadau symud. Mae'r staff wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn paratoi ar gyfer agor, gan gadw at gyngor Llywodraeth Cymru a blaenoriaethu diogelwch ein cwsmeriaid a'n staff. Rydym yn dal ati i ddatblygu ein platfformau ar-lein fel y gallwch barhau i gadw mewn cysylltiad â ni hyd yn oed os ydych yn hunanynysu neu'n gwarchod. Bydd rhai o'r gwasanaethau a gynigiwn yn newid a dymunwn ddiolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Pryd ydych chi ar agor?

· Byddwn ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am - 3.30pm

· Mae ein Caffi ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am - 2.00pm

· (Ar gau ddydd Llun Gŵyl y Banc)

A fydd gennych system fwcio?

· Nid oes angen i chi fwcio cyn ymweld â'r ganolfan

· Byddwn yn cyfyngu ar nifer y bobl sydd yn yr adeilad os oes angen, ac yn gofyn i chi aros wrth y drws pan fyddwch yn cyrraedd

· Byddwn yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer Tracio ac Olrhain wrth ddod i mewn i'r adeilad

Ydy’r orielau a'r siop grefftau ar agor?

· Bydd y ddwy Oriel a'r Siop Grefftau ar agor fel arfer, yn arddangos ac yn gwerthu gwaith celf. Byddwn yn lansio siop ar-lein hefyd cyn hir

· Gofynnir i chi beidio â chyffwrdd unrhyw eitemau sy’n cael eu harddangos ac os hoffech edrych ar eitem yn fanwl neu ei phrynu, gofynnwch i aelod o’r staff

A fydd y Caffi ar agor?

· Bydd ein Caffi ar agor gyda chapasiti cyfyngedig, bwydlen gyfyngedig a rhai dewisiadau tecawê. Yr oriau agor fydd 9.30am - 2.00pm

· Bydd rhai seddau ar gael tu allan hefyd

· Gofynnir i chi beidio â chyffwrdd unrhyw eitemau sy'n cael eu harddangos ac os hoffech brynu eitem, gofynnwch i aelod o'r staff

Ydw i’n gallu defnyddio arian parod?

· Rydyn ni'n dal i dderbyn taliadau ag arian parod ond awgrymwn eich bod yn defnyddio taliadau â cherdyn a digyffwrdd ble bo'n bosibl

Alla i hurio ystafell?

· Mae ein hystafelloedd ar gael i'w hurio gyda chapasiti cyfyngedig. Anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01633 483321 fel y gallwn drafod eich anghenion

· Awgrymwn eich bod yn bwcio dyddiad/amser i alw heibio i weld yr ystafelloedd sydd ar gael cyn bwcio, i sicrhau eu bod yn addas i chi

· Polisi canslo: Rhybudd o 2 wythnos – rhaid talu ½, rhybudd o 1 wythnos neu lai – rhaid talu’n llawn

Pryd fyddwch chi'n rhedeg y Gweithdai Gwyliau i Blant a sut fyddwch chi'n sicrhau eu diogelwch?

· Bydd ein Gweithdai Gwyliau i Blant yn rhedeg eto yn ystod Hanner Tymor Hydref 2020 rhwng 10am a 3pm a byddwn yn gostwng nifer y plant a dderbynnir

· Rhaid bwcio ymlaen llaw neu ni fyddwch yn cael mynediad. Wrth fwcio, bydd angen enw a rhif ffôn rhiant/gwarcheidwad ar gyfer argyfyngau. Byddwn yn gofyn am gael cadw'r manylion hyn fel rhan o system Tracio ac Olrhain y GIG i helpu i atal lledaeniad Covid-19. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu, caiff ei chadw'n ddiogel a'i dileu ar ôl 21 diwrnod

· Bydd digon o lanweithydd dwylo ar gael, ynghyd â'r sinciau ar gyfer golchi dwylo yn y Gweithdy. Bydd yr holl offer, byrddau a’r cadeiriau yn cael eu glanhau cyn ac ar ôl eu defnyddio. Gofynnir i blant ddod â'u masgiau gyda nhw

· Byddwn yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol yn ystod ein gweithdai. Os bydd eich plentyn yn cael hyn yn anodd yn ystod eu hamser yma, efallai bydd rhaid i ni’ch ffonio i'w casglu'n gynnar

· Rydyn ni'n adeilad cyhoeddus ac mae ein cyfleusterau toiled ar y llawr gwaelod. Bydd plant yn cael eu hebrwng i'r cyfleusterau hyn gan diwtor a gofynnir iddyn nhw sicrhau eu bod wedi golchi eu dwylo

· Os yw eich plentyn yn teimlo'n anhwylus neu mae wedi cysylltu ag unrhyw un arall sy'n teimlo'n anhwylus, gofynnwn i chi beidio â bwcio’r plentyn yn ein gweithdai. Mae croeso i chi fwcio ar ddyddiad arall

Sut fyddwch chi'n sicrhau bod LGAC yn ddiogel i ymwelwyr o ran Covid?

· Bydd man diheintio dwylo ger y drws ffrynt i'w ddefnyddio cyn mynd o gwmpas prif rannau’r adeilad. Bydd peiriannau diheintio dwylo ar gael mewn rhannau eraill o'r adeilad hefyd

· Byddwn yn gofyn i chi (neu'r prif berson yn eich grŵp) gofrestru yn y dderbynfa gan roi eich enw, rhif ffôn a’ch amser cyrraedd. Gofynnir i chi allgofnodi hefyd, gan roi eich amser gadael. Mae hyn yn rhan o system Tracio ac Olrhain y GIG a fydd yn helpu i atal lledaeniad Covid-19. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu, caiff ei chadw'n ddiogel a'i dileu ar ôl 21 diwrnod yn unol â chanllawiau swyddogol Llywodraeth Cymru

· Bydd sgrin warchod wrth y ddesg flaen a chownter y caffi

· Rydyn ni'n eich annog i wisgo masg pan fyddwch yn yr adeilad. Nid oes angen gwneud hyn pan fyddwch yn bwyta/yfed yn y Caffi

· Byddwn yn creu system unffordd ar gyfer ymweld â'n siop grefftau, yr orielau a'r toiledau. Bydd sticeri llawr a saethau drwy'r holl adeilad i'ch helpu i fynd i'r cyfeiriad iawn

· Bydd rheolau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle – cadwch eich pellter oddi wrth gwsmeriaid eraill a'r staff. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros a/neu os gofynnir i chi symud i fan arall os oes angen

· Ar ddiwedd bob diwrnod byddwn yn glanhau'r adeilad yn drylwyr. Helpwch ni i gadw’n hadeilad yn lân trwy beidio â chyffwrdd unrhyw eitemau sy’n cael eu harddangos neu bethau eraill fel rhan flaen y cypyrddau arddangos

· Byddwn wedi gosod amrywiaeth o arwyddion dwyieithog yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid am y newidiadau hyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01633 483321 i siarad ag aelod staff

Beth os ydw i'n teimlo'n anhwylus?

· Gofynnwn i chi beidio ag ymweld â'n hadeilad os ydych yn teimlo'n anhwylus

· Bydd ystafell ynysu yn ein horiel fach ar gyfer unrhyw gwsmeriaid sy'n dangos unrhyw symptomau sydyn o Covid-19. Mae hyn er mwyn diogelu cwsmeriaid ac aelodau staff nes i ni drefnu cymorth

· Os ydych wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sy'n dangos unrhyw symptomau Covid-19 neu sydd wedi cael prawf positif, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau, peidiwch ag ymweld â'n hadeiladau. Dylech hunanynysu am 10-14 diwrnod yn unol â chyngor swyddogol y GIG a Llywodraeth Cymru

Beth os daw cyfyngiadau symud newydd neu leol?

· Os digwydd hyn, efallai bydd rhaid i ni gau eto ar fyr rybudd. Byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi bwcio gweithdai, hurio ystafelloedd ac ati i roi gwybod iddyn nhw

· Rydym yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a'n rhestr bostio’n rheolaidd gyda gwybodaeth am y pethau sy’n mynd ymlaen, gweithgareddau celf a chrefft, y gwaith celf sydd ar werth, a mwy. Argymhellwn eich bod yn mynd i'n gwefan, dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu'n ymuno â'n rhestr bostio fel y byddwch yn cael eich diweddaru ar unrhyw newidiadau neu wybodaeth newydd

Tweet

YMWELD

Mae ein Horielau yn cynnal arddangosfeydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ac yn dangos gwaith gwneuthurwyr lleol.

exhibition gallery

DYSGU

Gallwn gynnig partïon celf, gweithdai yn ystod gwyliau ysgol, ynghyd ag ymweliadau i ysgolion a cholegau.

childres activities

BWYTA

Mae ein caffi'n darparu amrywiaeth eang o ddiodydd, prydau, byrbrydau a chacennau er eich mwynhad.

cafe

SIOPA

Mae ein shop yn arddangos ac yn gwerthu'r enghreifftiau gorau o grefft gyfoes o Gymru ac o bob rhan o'r DU.

craft shop